MAE ARCHEBU AR GYFER CYNHADLEDD TOCYNNAU DIWRNOD (DYDD IAU YN UNIG) YN CAU DYDD IAU 6 HYDREF AM HANNER DYDD
12-14 Hydref 2022
Plas y Brenin | Canolfan Awyr Agored Cenedlaethol
Ymunwch â Chymdeithas Eryri wrth i ni gynnal cynhadledd flynyddol cymdeithasau’r Parciau Cenedlaethol yr hydref hwn yng Nghanolfan Awyr Agored Plas y Brenin wrth wraidd tirlun mynyddig trawiadol Eryri.
Mae tirluniau dynodedig Cymreig yn gweithredu o fewn fframwaith ddiwylliannol, deddfwriaethol a pholisi neilltuol, a gynhelir gan ymrwymiad ein llywodraeth i les cenedlaethau’r dyfodol.
Eleni, felly, rydym yn croesawu cynadleddwyr o deulu ehangach o gyrff o’r un anian yng Nghymru, yn ogystal â chymdeithasau parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd wedi ymrwymo i greu Parc Cenedlaethol cyntaf Cymru ers datganoli, gwarchod pum ardal bresennol Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac ymgyrchu am dirlun dynodedig newydd ym mynyddoedd Cambria yng nghanolbarth Cymru.
Bydd yno siaradwyr ar faterion cyfredol a dadleuol, gweithdai rhyngweithiol, cyfleoedd lu i rwydweithio, astudiaethau achos ysbrydoledig a theithiau maes.
Byddwn yn dathlu hanfod Eryri – ardal lle nad yw’n bosibl gwahanu’r iaith a thirlun.
Drwy gydol y gynhadledd hoffem rannu ffordd o feddwl ac ymarfer:
Archebwch eich tocyn cynrychiolydd llawn
Mae tocynnau diwrnod ar gael rwan!
Am fwy o wybodaeth cysylltwch info@snowdonia-society.org.uk neu 01286 685498.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk