Roeddem i gyd yn edrych ymlaen at ein hamser cinio. Wedi bore prysur o gynnal a chadw llwybrau a chael ein synnu gyda medrau tîm llwybrau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, roeddem i gyd yn awchu am baned a brechdan a chyfle i edrych ar yr olygfa. Rydym yn hynod o ffodus o fwyta ein cinio mewn mannau mor hardd yma yn Eryri.
Felly, pan welsom ymwelydd a ddywedodd wrthym am ddringo’n ôl i fyny’r grisiau yr oeddem newydd eu dilyn i lawr, roeddem yn amheus o’i fwriad. Ond, llwyddodd i’n argyhoeddi gyda’i frwdfrydedd heintus. Pa reswm oedd gennym i beidio ei ddilyn? Yn enwedig, er gwaethaf ei gorff blinedig, doedd o ddim yn mynd i golli’r cyfle hwn i weld rhywbeth prin, a doedden ni ddim felly, chwaith!
Fe’i dilynwyd yn ôl i fyny’r llwybr, drwy’r ddrysfa o greigiau, nes i ni i gyd gyrraedd troed clogwyn. Bellach roedd yn fater o’r ‘cyntaf i’r felin’ wrth chwilio am y planhigyn bach. Wedi edrych yn fanwl am gryn amser, dyna lle’r oedd brwynddail y mynydd, Gagea serotina, yn glynu er gwaethaf pob rhwystr i gilfach serth.
Brwynddail y Mynydd
Fel grŵp o bobl sy’n caru byd natur, roedd yn anodd coelio ein llygaid! Yn fuan iawn roedd pobl eraill nad oedden nhw’n gyfarwydd â’r planhigyn wedi cyffroi cymaint â ni. Planhigyn o orffennol pell rhewlifoedd Oes yr Iâ yw brwynddail y mynydd, blodyn Arctig Alpaidd hynod o brin sy’n tyfu mewn ychydig iawn o leoliadau yn Eryri. Ymysg y bygythiadau i’r rhywogaeth hon mae newid hinsawdd, pori, sathru, ynghyd â poblogaethau bach ynysig (does dim ond rhyw 100 o fylbau yn tyfu’n wyllt). Ar nodyn mwy positif, dyma un o blanhigion mwyaf gwydn Cymru, sydd wedi addasu i oroesi mewn amodau hynod o eithafol. Mae’n tyfu mewn lleoliadau creigiog sy’n wynebu’r gogledd ac sydd â lefelau uchel o ymbelydredd uwch-fioled ac mae’n gallu goroesi cyfnodau o oerni eithafol pan nad yw’n blodeuo.
Mae llawer o bobl Cymru’n falch iawn ohono, nid yn unig am ei arwyddocâd ecolegol ond ei bwysigrwydd yn ddiwylliannol. Dywedir bod y lili yma’n tyfu ym mhle bynnag y camodd Dewi Sant, nawddsant Cymru, ar y ddaear. Mae gan lili’r Wyddfa le pwysig mewn llên gwerin ac enw’r Albanwyr arno yw ‘gwniadur y tylwyth teg’, a’u cred yw ei fod yn dod â lwc dda.
Roeddem mor ffodus i fod yn y lle iawn ar yr adeg iawn i weld y planhigyn rhyfeddol hwn yn blodeuo. Roeddem i gyd yn eithaf emosiynol wedi i ni weld y planhigyn bach hardd, a chawsom hwb i barhau â gweddill gwaith y prynhawn. Aeth pawb ohonom tuag adref yn llawn rhyfeddod wedi’r profiad bythgofiadwy. Os ydych chi’n un o’r rhai ffodus i ddod o hyd i lili’r Wyddfa, cofiwch beidio ymyrryd ag o na’i niweidio mewn unrhyw ffordd, gan ei fod yn cael ei warchod yn gyfreithiol er mwyn ei helpu i ffynnu.
Molly
Cofiwch ystyried ymaelodi â ni i gefnogi ein gwaith parhaol ar ran tirweddau a chynefinoedd Eryri – mae’r gefnogaeth a gawn gan ein haelodau yn hynod o werthfawr ac yn sicrhau parhad ein rhaglen o weithgareddau cadwraeth a gwaith eiriolaeth. Neu, oes gennych chi awydd cymryd rhan mewn gwaith cadwraeth ymarferol? Rydym yn falch iawn o groesawu gwirfoddolwyr newydd. Arwyddwch YMA er mwyn gweld beth sydd ar y gweill!
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk