Ymateb grwpiau amgylcheddol i ymgynghoriad llywodraethau’r DU a Chymru ar fawn garddwriaethol
Mae potensial sylweddol mawnogydd fel mannau storio carbon ac ar gyfer bioamrywiaeth yn golygu bod cynnal mawn gwlyb iach yn y ddaear yn arf hanfodol wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a byd natur. Mae’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd wedi datgan, os ydyn ni am lwyddo i ateb ein huchelgais o ran Net Sero, bod rhaid i ni roi’r gorau erbyn 2023 i echdynnu a gwerthu mawn ar gyfer pob defnydd garddwriaethol, yn cynnwys yn y sectorau proffesiynol a ledled mewnforion.
Rydym felly yn falch bod Llywodraethau’r DU a Chymru wedi cydnabod pwysigrwydd cadw ein mawn yn y ddaear a’u bod yn cymryd camau i wahardd gwerthu mawn yn y sector adwerthu. Fodd bynnag, mae’n rhaid iddyn nhw symud yn gynt a gyda mwy o uchelgais i wireddu’r newidiadau cynhwysfawr sydd eu hangen i ateb targed Pwllgor ar Newid Hinsawdd, cyflwyno’r gwaharddiad arfaethedig cyn gynted â phosibl, ac ymchwilio llwybr cyflym i waharddiad llwyr yn syth bin, yn cynnwys masnach, allforion, mewnforion a’r sector proffesiynol. Does dim cyfiawnhad dros barhau i echdynnu a gwerthu mawn yn wyneb amcanion hinsawdd a natur y Llywodraethau yma.
Cewch dweud eich dweud yma:
https://consult.defra.gov.uk/soils-and-peatlands/endingtheretailsaleofpeatinhorticulture/
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk