Cydnabyddiaeth ar gyfer Caru Eryri

Mewn cam hynod gadarnhaol, mae prosiect Caru Eryri, a gyd-sefydlwyd gan Gymdeithas Eryri, wedi derbyn cydnabyddiaeth drwy gyrraedd rhestr fer Gwobrau Dewi Sant. Teithiodd Cadeirydd y Gymdeithas Sue Beaumont i lawr i Gaerdydd ar gyfer y seremoni wobrwyo a dyma ei sylwadau ar y digwyddiad”

“Roeddwn i wrth fy modd ac yn llawn balchder yn ddiweddar i fynychu Gwobrau Dewi Sant 2024 yng Nghaerdydd ynghyd â phedwar o’n gwirfoddolwyr anhygoel Ian Hampton, Karen Wood, Alwyn Williams a Simon Higgins yn rownd derfynol y categori amgylchedd.

“Mae Gwobrau mawreddog Dewi Sant yn cael eu cyflwyno bob blwyddyn i ddathlu a chydnabod llwyddiannau rhyfeddol pobl Cymru. Mae yna gategorïau am ddewrder, arloesedd, diwylliant, chwaraeon, ysbryd cymunedol yn ogystal â bod yn bencampwyr dros yr amgylchedd.

“Eleni fe gafodd ein prosiect Caru Eryri ei ddewis gan bwyllgor cynghori annibynnol fel un o dri a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn y categori amgylchedd. Roedd yn anrhydedd mawr i ni gynrychioli holl ymdrech gwirfoddoli Caru Eryri am helpu i reoli effaith ymwelwyr â Pharc Cenedlaethol Eryri drwy ymgysylltu â’r cyhoedd, codi ymwybyddiaeth o’n tirwedd gwerthfawr a chodi sbwriel.

“Roedd tri yn rownd derfynol ein categori ac er na wnaethon ni ennill y wobr, cawsom noson fendigedig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd Cymru yn gwylio clipiau fideo o gyflawniadau eithriadol pob un o’r enwebeion, a’r Prif Weinidog Vaughan Gething a gyflwyno bob gwobr gan longyfarch yr enillwyr.

“Ar ran holl ymddiriedolwyr Cwmdeithas Eryri hoffwn ddiolch a llongyfarch y staff a’r gwirfoddolwyr sydd wedi cyflawni cymaint drwy Caru Eryri yn gweithio gyda’n partneriaid, Parc Cenedlaethol Eryri, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Bartneriaeth Awyr Agored, ac sydd wedi cael eu cydnabod yn rownd derfynol. Gwobr Dewi Sant.

Fe ddywedodd Ian Hampton, un o’r gwirfoddolwyr eraill a deithiodd i Gaerdydd ar gyfer y digwyddiad: “Dros y 50 mlynedd diwethaf rwyf wedi treulio llawer o amser yn cerdded mynyddoedd Eryri gyda theulu a ffrindiau ac wedi meddwl yr hoffwn roi rhywbeth yn ôl. Gwirfoddoli oedd y dewis naturiol, dwi’n cael treulio mwy o amser yn y Parc Cenedlaethol ac, ar yr un pryd, rydw i’n gadael y Parc mewn cyflwr gwell na phan gyrhaeddais.

“Rwyf bellach wedi gwirfoddoli ers 3 blynedd a phob tro yr wyf allan i wneud hyn mae yna rywbeth diddorol ac rwy’n dysgu rhywbeth newydd. Gallai fod yn sgwrs gydag ymwelydd neu ‘r ffaith eu bod nhw’n gwerthfawrogi’r hyn rydym yn ei wneud. Gweld y bywyd gwyllt neu ddysgu rhywbeth newydd am y Parc Cenedlaethol, naill ai gan wirfoddolwyr eraill neu staff (am fflora, ffawna, daeareg neu hanes).

“Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ennill gwybodaeth newydd, cwrdd â phobl o’r un anian, helpu eraill, cael hwyl a mwynhau Eryri – hyd yn oed pan fydd hi’n bwrw glaw.”

Partneriaeth yw Caru Eryri rhwng Cymdeithas Eryri, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Bartneriaeth Awyr Agored.

Gweler y fideo gwych hwn: