Fe’ch gwahoddir yn gynnes i’n Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol ar Medi 24ain, yng Nghlwb Rygbi Bethesda ar lan yr afon Ogwen.
Robbie Blackhall-Miles, y siaradwr gwadd, yw arweinydd y project Natur am Byth i gynyddu poblogaethau planhigion arctig alpaidd ac infertebratau sydd o dan fygythiad yn Eryri. Project cenedlaethol i adfer rhywogaethau yw Natur am Byth a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a arweinir gan ystod o elusennau cadwraeth, ac a gydlynir gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Daw’r dydd i ben gyda dewis o ddwy daith gerdded – un gymedrol ac un mwy egnïol. Ar y ddwy daith cewch weld nodweddion o dreftadaeth gyfoethog pen Dyffryn Ogwen.
Dyma’ch cyfle i ymuno â’r tîm o staff ac ymddiriedolwyr ar ddiwrnod difyr, dysgu am waith y Gymdeithas dros y flwyddyn ddiwethaf a’r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dewch draw i ymuno â ni – bydd croeso cynnes a chwmni da yn eich aros.
Agenda: Nodwch, os gwelwch yn dda, yr ychwanegiadau i’r agenda:
Eitem 9: Ethol Swyddogion ac Aelodau’r Pwyllgor Gwaith:
Cyfrifon Blynyddol 2012-22, Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr, ac Adolygiad y Flywddyn y Cadeirydd yma: Final Accounts 2021 2022
Rhaid cofrestru ymlaen llaw. Cofrestrwch yma
Am fwy o wybodaeth / help efo unrhyw broblemau cofrestru cysylltwch: info@snowdonia-society.org.uk neu 01286 685498
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk