Fe’ch gwahoddir yn gynnes i’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn Yr Ysgwrn, Trawsfynnydd ar ddydd Sadwrn 16eg Tachwedd 2024.
Un rheswm pam ein bod ni wedi dewis Yr Ysgwrn yw ei fod ar lwybr bws y T2 sy’n cysylltu Bangor, Porthmadog, Dolgellau a Machynlleth. Mae’r bws yn cyrraedd Trawsfynydd yn fuan cyn y cyfarfod, fodd bynnag. Felly, os ydych chi’n bwriadau defnyddio’r bws, a wnewch chi roi gwybod i ni pan fyddwch chi’n bwcio, ac fe allwn ni drefnu lifft i chi o’r arosfan i’r Ysgwrn.
Ein siaradwr gwadd eleni yw Gareth Roberts.
Bydd Gareth yn siarad am sut y bu i’r dirwedd a’r cymunedau o chwmpas Arenig a Chwm Prysor wedi ysbrydoli dau artist enwog – un yn fardd y llall yn arlunydd – i gynhyrchu eu gwaith mwyaf cofiadwy rhyngwladol yn ail ddegawd yr 20fed ganrif. Mae’r dirwedd hon wedi newid yn sylweddol ers hynny. Bydd Gareth yn annog trafodaeth ynghylch sut y gellir diogelu a gwella rhinweddau arbennig Eryri, sydd dan fygythiad mor barhaus, er mwyn i’n hysbrydoli ni i’r dyfodol.
Dyma eich cyfle i ymuno â’r staff a’r tîm o ymddiriedolwyr ar ddiwrnod i’w fwynhau, i ddysgu am waith y Gymdeithas dros y flwyddyn ddiwethaf a’i chynlluniau ar gyfer y nesaf.
Bydd yr Adroddiad Blynyddol, y Cyfrifon Blynyddol ac Adolygiad y Flwyddyn ar gael ar ein gwefan www.snowdonia-society.org.uk erbyn 2 Tachwedd.
Os nad ydych yn gallu gweld yr wybodaeth ar ein gwefan cysylltwch â’r swyddfa drwy ebostio www.snowdonia-society.org.uk neu drwy ffonio’r swyddfa ar 01286 685498. Gallwn yna ebostio neu bostio’r dogfennau i chi. Bydd y sawl sy’n cofrestru i fynychu’r CBC yn derbyn y dogfennau’n awtomatig ar ebost.
Diolch yn fawr i chi am eich cefnogaeth barhaol i’r Gymdeithas a’n holl waith i warchod a gwella Eryri.
Os ydych yn bwriadu cymryd trafnidiaeth gyhoeddus gallwch gynllunio eich taith YMA
AGENDA
10:00-10:30 – Cofrestru, te a choffi
10:30 – Busnes ffurfiol y CBC
1. Ymddiheuriadau
2. (i) Cofnodion Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol 2023
(ii) Materion yn codi o’r cofnodion hyn
3. Adroddiad y Cyfarwyddwr – Rory Francis
4. Adroddiad y Cadeirydd – Sue Beaumont
5. Adroddiad Prosiect Cadwraeth – Chelsea Boden
6. Adroddiad Ariannol – Hazwani Ibrahim
7. Mabwysiadu Adroddiadau a Chyfrifon
(i) Cynnig i fabwysiadu’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y cyfnod yn diweddu 31 Mawrth 2024
(ii) Cynnig i ail-benodi Williams Denton fel archwilwyr annibynnol cyfrifon y Gymdeithas ar gyfer 2024/2025
8. Ethol Swyddogion ac Aelodau’r Pwyllgor Gwaith:
Llywydd: Roger Thomas. Is-lywyddion: Ei Anrhydedd Huw Morgan Daniel CVO KStJ, David Firth, Syr Simon Jenkins. Cadeirydd: Sue Beaumont. Is-gadeirydd: Jane Barbrook. Penodi ymddiriedolwyr newydd: Richard Haevers, Mark Dakeyne, Rob Nicholson
9. Gwelliannau i’r Cyfansoddiad
10. Cwestiynau i’r Cyfarwyddwr a’r Swyddogion
11. Unrhyw fusnes arall
11:45 – Siaradwr gwadd: Gareth Roberts
12:30 – Cinio – darperir te, coffi a chacen (dewch â phecyn bwyd)
13:30 – Taith dywys o amgylch y ffermdy
Gellir dod o hyd i gofnodion blaenorol YMA
Adroddiad blynyddol YMA
Newidiadau i Gyfansoddiad y Gymdeithas
Cymeradwywyd y Cyfansoddiad presennol yn 2013. Mae o wedi sefyll prawf amser ac wedi gwasanaethu’r Gymdeithas yn dda. Fodd bynnag, mae’r Bwrdd yn awr yn cynnig gwneud rhai mân newidiadau er mwyn ei ddiweddaru a’i wneud yn gliriach . Mae’r ddogfen ddiwygiedig i’w gweld YMA. Fe gaiff hon ei chyflwyno yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol o dan Eitem 9 ar yr agenda. Mae’r Bwrdd yn gobeithio y bydd aelodau yn pleidleisio o blaid y gwelliannau.
Dangosir testun y cynigir ei ddileu gyda ‘streic drwodd’. Dangosir testun newydd neu destun ychwanegol mewn coch. Gall aelodau gysylltu â’r Gymdeithas (director@snowdonia-society.org.uk) cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol os ydynt yn dymuno trafod unrhyw un o’r newidiadau arfaethedig – gan y gallai hyn arbed amser yn y CCB ei hun.
Mae’r prif newidiadau yn Adrannau 13, 14 ac 17. Mae’r newidiadau yn egluro’r broses ar gyfer penodi ymddiriedolwyr a swyddogion eraill, a fydd i gyd yn gymwys i wasanaethu am hyd at 9 mlynedd. Mae hyn eisoes yn wir yn achos ymddiriedolwyr, ond mae geiriad y Cyfansoddiad presennol yn aneglur o ran sut i gyfrifo 9 mlynedd. Mae’r geiriad newydd yn symlach.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk