Oriau: 35 awr yr wythnos, 12 Mis, Cyfnod penodol. Bydd rôl ran-amser yn cael ei hystyried fel addasiad rhesymol
Graddfa tâl: £10.90 yr awr (Cyflog byw gwirioneddol)
Lleoliad: Swyddfa: Caban, Brynrefail. Mae opsiynau gweithio gartref ar gael. Mae’n bosib y bydd gwaith wyneb yn wyneb yn digwydd ar hyd a lled Gogledd Eryri.
DYDDIAD CAU: 12.00pm, dydd Gwener 17eg Chwefror 2023
DYDDIAD CYFWELIAD: dydd Mercher 1af Mawrth 2023
DYDDIAD CYCHWYN DISGWYLIEDIG: dydd Llun 17eg Ebrill, 2023
Mae Newydd i Natur yn rhaglen gyffrous o leoliadau gwaith cyflogedig mewn rolau sy’n canolbwyntio ar natur. Rydyn ni’n arbennig o awyddus i gael ceisiadau gan bobl ifanc (18-25 oed) sy’n dod o gefndiroedd ethnig amrywiol, sy’n byw ag anabledd neu sy’n dod o aelwydydd incwm isel.
Cliciwch yma am wybodaeth lawn am y cyfle hwn.
DISGRIFIAD O’R RÔL
Bydd y rôl amrywiol hon yn eich galluogi i ennill ystod eang o sgiliau a phrofiad i’ch helpu i ymgysylltu â’r cyhoedd am amrywiaeth o faterion amgylcheddol a chadwraeth – a fydd yn eich helpu i symud ymlaen yn y sector amgylcheddol. Mae’r trydydd sector yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o warchod ein tirweddau arbennig ac mae hwn yn gyfle delfrydol i ddysgu mwy am sut mae elusennau a sefydliadau di-elw yn gweithio gyda’r cyhoedd a chyda sefydliadau partner.
Fel Cynorthwyydd Ymgysylltu, byddwch yn cael eich hyfforddi a’ch cefnogi i wneud y canlynol:
• Recriwtio aelodau, aelodau busnes, cefnogwyr a gwirfoddolwyr newydd amrywiol ar gyfer Cymdeithas Eryri ar-lein ac wyneb yn wyneb.
• Cefnogi staff i ddatblygu a chyflwyno rhaglen eithriadol o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyhoeddus sy’n codi proffil y Gymdeithas ac yn gwella enw da’r Gymdeithas.
• Cefnogi ymgysylltiad y Gymdeithas â grwpiau cymunedol ac aelodau’r cyhoedd i’w helpu i reoli safleoedd ar gyfer cadwraeth.
• Gweithio gyda staff eraill i ddatblygu ein gwaith mewn partneriaeth â sefydliadau eraill
• Mynychu digwyddiadau a gweithgareddau sefydliadau eraill fel platfform recriwtio a rhwydweithio
• Cyfrannu at fonitro a gwerthuso gwaith y Gymdeithas, a, gyda staff eraill, datblygu adroddiadau effaith effeithiol.
• Helpu gydag agweddau eraill ar waith y Gymdeithas yn ôl yr angen
• Bydd cyfleoedd i ennill profiad a sgiliau mewn gwaith cadwraeth ymarferol a chwblhau hyfforddiant achrededig perthnasol
MANYLEB Y PERSON
CAIS
Gallwch chi wneud cais am y lleoliad hwn drwy ddilyn y ddolen ganlynol: www.surveymonkey.co.uk/r/NTNPlacementApplication22
Groundwork UK sy’n gyfrifol am y cam hwn a bydd yn gwirio pa mor addas yw’r ymgeiswyr, cyn trosglwyddo’r cais i’r sefydliad sy’n cynnal y lleoliad, a fydd yn llunio rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer proses gyfweld anffurfiol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis y rôl gywir o’r gwymprestr yn ofalus, er mwyn sicrhau bod eich manylion yn cael eu trosglwyddo i’r sefydliad cywir sy’n cynnig y lleoliad. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y ffurflen gais, cysylltwch â Groundwork UK yn: newtonature@groundwork.org.uk
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y rôl neu’r broses gyfweld, mae croeso i chi gysylltu â ni yn: mary-kate@snowdonia-society.org.uk
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk