Elusen gadwraeth Eryri yw Cymdeithas Eryri ac mae hi’n gweithio i warchod rhinweddau arbennig yr ardal ers 1967.
Oriau: 30 awr yr wythnos gyda thymor penodol hyd diwedd Mai 2022. Potensial i ymestyn y cytundeb ar gyfer yr ymgeisydd priodol.
Graddfa tâl: £9.50 yr awr (Gwir Gyflog Byw)
Lleoliad: Gweithio’n bennaf o adref
Dyddiad cau’r cais: 09:00 dydd Iau 18 Tachwedd
Dyddiad y cyfweliad: Dydd Mercher 24 Tachwedd
Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosib
Disgrifiad swydd:
Os hoffech ddatblygu ystod o fedrau digidol a swyddfa wrth helpu i warchod yr amgylchedd, yna efallai mai dyma’r swydd i chi.
Byddwch yn datblygu ystod eang o fedrau gweinyddol a digidol, a fydd yn eich helpu i sicrhau cynnydd yn eich gyrfa.
Byddwch yn datblygu medrau mewn:
Byddwch yn cyfrannu at brojectau sy’n gwarchod ac yn gwella Eryri, ac yn cefnogi staff mewn meysydd eraill o waith, gweithgareddau a digwyddiadau Cymdeithas Eryri
Hanfodol
Rhoir hyfforddiant llawn, ond bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
Mae angen hyblygrwydd oherwydd mae gweithgareddau’n digwydd ar benwythnosau yn ogystal â dyddiau gwaith, ac efallai y bydd angen gweithio gyda’r nos. Fodd bynnag mae’r hyblygrwydd yn bodoli er budd yr elusen a’r cyflogedig a chyn belled â’ch bod yn ateb gofynion y Gymdeithas, byddwn yn eich cefnogi i gynllunio fel bod eich gwaith a’ch ymrwymiadau eraill yn cyd-weddu.
Mae medrau yn yr iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Buddion gweithio i Gymdeithas Eryri – rydym yn cynnig:
Am ragor o wybodaeth cysylltwch os gwelwch yn dda â John Harold ar director@snowdonia-society.org.uk.
Sylwer: rydym yn derbyn ceisiadau a gwblheir wrth lenwi ein Ffurflen Gais Safonol yn unig
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk