Mae’r ‘Weatherman’ Derek Brockway yn sgwrsio gyda’n Swyddog Ymgysylltu Claire Holmes yn y rhifyn hwn o Weatherman Walking.
Mae Claire yn adrodd dipyn o hanes lliwgar Tŷ Hyll a sut mae’r lle arbennig hwn yn rhan o’n gwaith ehangach. Gwelwn lawer o uchafbwyntiau lleol cyfarwydd yn y rhaglen hon, wrth i Derek gerdded Llwybr Llechi Eryri (llwybr yr ydym yn helpu i’w gynnal) ac yn cyfarfod Beca o Bartneriaeth Tirlun y Carneddau, project yr ydym yn brysur yn helpu i’w wireddu.
Weatherman Walking – cyfres 12: 2. Capel Curig i Betws-y-Coed
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk