Daeth saithdeg o gynadleddwyr ynghyd ym mis Hydref ar gyfer ein cynhadledd Cenedl Fach: Tirluniau Mawr ym Mhlas y Brenin. Daeth y bobl o bob Parc Cenedlaethol yn Lloegr a Chymru, AHNE fel Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Mynyddoedd Cambria, nad ydyn nhw eto wedi eu dynodi.
Roedd yn anrhydedd i bob un ohonom yma yng Nghymdeithas Eryri – staff, ymddiriedolwyr, aelodau a gwirfoddolwyr – i ddod â phrofiad, gwybodaeth a brwdfrydedd y bobl hyn at ei gilydd. Roedd cryn egni i’w deimlo ledled y gynhadledd a chawsom enghreifftiau ysbrydoledig o’r hyn a wireddir gan bartneriaethau mewn tirluniau dynodedig. Rhoddwyd sylw i’n rhaglen i wirfoddolwyr, Caru Eryri, ond roedd yn ddifyr iawn clywed barn pobl o’r ddwy ochr i’r ffin, i ystyried sut mae pethau’n esblygu yng Nghymru, ac i ystyried beth mae hyn yn ei olygu i’n dulliau o gydweithio – fel elusennau ac awdurdodau, ac o fewn a rhwng cenhedloedd.
Roedd ein trafodaethau’n pwysleisio’r angen am lywodraethau sefydlog sydd wedi ymrwymo i dirluniau dynodedig, adferiad byd natur a gwarchodaeth ehangach i’r amgylchedd. Roeddem yn croesawu’r posibilrwydd o Barc Cenedlaethol newydd yng ngogledd ddwyrain Cymru, a thrafodwyd yr heriau wrth greu model mwy cynaliadwy o dwristiaeth – un sy’n gweithio i gymunedau yn ogystal ag ymwelwyr.
Cawsom eiriau clir a difrifol gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru’n mynd i’r afael â’r heriau hyn. Cafwyd trafodaeth fuddiol yn ymwneud â lle a sut y gallwn ni fel y trydydd sector gyfrannu i’r gwaith hwn. Yn fwyaf pwysig, efallai, bu cydnabyddiaeth bod arweinyddiaeth yn rhywbeth i bob un ohonom ei ddatblygu. Wrth gydweithio, ac adnabod ein blaenoriaethau ar y cyd a gweithredu ag ewyllys ac adnoddau, bydd y tirluniau mawr yma’n darparu llawer ar gyfer cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol.
Gadawodd y cynadleddwyr a dychwelyd i’w tirluniau dynodedig a chyrff perthnasol wedi eu tanio â meddyliau positif ac yn barod i wneud ein rhan – i sicrhau bod y symudiad dros dirlun yn fwy, yn fwy effeithiol ac yn fwy cydweithredol.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk