Cystadleuaeth ffotograffiaeth 2024

Dewch i’n helpu i ddathlu rhinweddau arbennig Eryri!

Ar gyfer cystadleuaeth ffotograffiaeth Cymdeithas Eryri eleni rydym yn chwilio am eich lluniau sy’n cyfleu ac yn dathlu rhinweddau arbennig Eryri.

Bydd y golygfeydd a’r tirluniau trawiadol yn gyfarwydd i lawer, ond wrth ymroi dipyn bach mwy mae’n bosib datgelu pam fod ein cydberthnogaeth o Eryri mor arbennig.

All eich medrau creadigol chi ddatgelu rhinweddau arbennig Eryri? Un ffotograff sy’n cyfleu rhinwedd arbennig neu efallai ffotograff sy’n arddangos sawl rhinwedd?

 

Ewch ati i ystyried y posibiliadau. Dyma’r rhinweddau arbennig:

  • Cymunedau
  • Yr Iaith Gymraeg
  • Tirluniau
  • Ysbrydoliaeth i’r Celfyddydau
  • Llonyddwch ac Unigedd
  • Cyfleoedd ar gyfer hamdden
  • Tirluniau Hanesyddol
  • Daeareg trawiadol
  • Rhywogaethau a chynefinoedd sy’n bwysig yn rhyngwladol

Ar y cyswllt isod cewch fwy o wybodaeth am y rhinweddau hyn.

www.nationalparks.uk/park/eryri-snowdonia/

Mae strategaeth y Gymdeithas yn helpu i gynnal y rhinweddau arbennig yma drwy gyfrwng y gwaith y mae hi’n ei wneud ym maes gwirfoddoli, addysg, eiriolaeth, a gweithio mewn partneriaeth.