Erbyn hyn mae fy mhengliniau yn brifo wrth ddod i lawr. Ar ôl cerdded i fyny Cwm Glas Mawr, sgrialu ar draws Crib Goch a gwthio drwy’r torfeydd i gyrraedd copa’r Wyddfa (neu’n ddigon agos), rydw i’n falch o fod ar y daith yn ôl i’r car. Roedd troi oddi ar lwybr Llanberis ac anelu am i lawr dros gribyn mwy anghysbell Gyrn Las i Nant Peris yn teimlo fel ymdrochi mewn mewn pwll braf wedi prysurdeb y copa dim ond 100 metr y tu ôl i mi. Mae blodau gwyn bregus y tormaen mwsoglyd, yn ffrwydro mewn sawl tusw bach hyfryd o lethrau creigiog, yn tynnu fy sylw. Y tu ôl i mi, gallaf glywed fy mrawd Jack a’i ffrind yn parhau i ddadlau rhywbeth yr oedden nhw wedi bod yn ei drafod drwy’r dydd; a oedd Jack wir yn 6 troedfedd fel yr oedd yn ei honni. Y fi oedd y rheswm yr oedden nhw yma heddiw. Wrth weithio i Gymdeithas Eryri rydw i’n ddigon ffodus i weithio ar Yr Wyddfa, gan arwain gwirfoddolwyr ar ddyddiau casglu sbwriel a chynnal llwybrau. Rydw i wrth fy modd ar y mynydd, ond rydw i wedi hen ddysgu y bydd dydd Sadwrn heulog ym mis Mehefin yn sicr o fod yn brysur. Fodd bynnag, roedd ffrind fy mrawd wedi rhoi ei bryd ar weld yr haul yn codi o gopa’r Wyddfa, ond gan nad o’n i’n dymuno codi am 3 o’r gloch y bore, dyna sut yr oeddem bellach yn dod i lawr o’r Wyddfa ar ddiwrnod prysur. Rydw i’n gwenu wrth i’w trafodaeth barhau ac yn ceisio canolbwyntio (a methu) ar adnabod y gwahanol blanhigion o’m blaen. Gadawaf i’m llygaid grwydro oddi ar y blodau ac yn ôl i’r golygfeydd mynyddig rhyfeddol o’m cwmpas. Ond, mae sglein ar y llwybr o’m blaen yn dal fy sylw. Edrychaf i lawr yn ôl a dal fy ngwynt; chwilen fechan sydd yno, gyda streipiau lliwgar o las, aur ac efydd. Dyma, yn bendant, chwilen yr enfys Yr Wyddfa (Chrysolina cerealis).
I rai ohonoch, bydd arwyddocâd hyn yn amlwg, ond i lawer efallai na fydd yn golygu dim o gwbl. Roeddwn yn rhywle yn y canol. Roeddwn yn gwybod beth oedd y chwilen, rhywogaeth Arctig Alpaidd a oedd wedi goroesi ers orffennol rhewlifol y DU. Chwilen sy’n goroesi ar ynys o gynefin priodol ymhell o’i pherthnasau yn Ewrop gyfandirol. Gwyddwn hefyd mai dim ond ar un mynydd yn y DU mae’r chwilen hon yn byw, Yr Wyddfa. Doeddwn i ddim yn ymwybodol ar y pryd mor eithriadol o fychan yw ei phoblogaeth a bod ei niferoedd yn ôl pob golwg yn gostwng. Yn 2015, mewn astudiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC), cafwyd hyd i ddim ond 5 chwilen wedi 63.5 awr o chwilio â llaw. Er nad ydym yn sicr pam ei bod yn prinhau, mae gwyddonwyr o’r farn bod newid hinsawdd, newidiadau mewn patrymau pori a dyddodiad maetholynnau o’r atmosffer i gyd yn cyfrannu. Daw CNC â’i adroddiad i ben drwy gynghori ymchwil i’r ffactorau hyn er mwyn cael gwell dealltwriaeth o brinhad y rhywogaeth hon.
Yn fwy positif, mae’r ffaith i ni ei gweld yn dangos bod y rhywogaeth hon nid yn unig yn dal yn bresennol, ond yn cynrychioli cynnydd bach yn ei chynefin ar y mynydd gan nad oes cofnod ar fap dosbarthiad CNC iddi gael ei gweld o’r blaen ar y grib yr oeddem yn ei dilyn. Fe all yr estyniad bychan olygu sawl peth gwahanol. Efallai bod nifer ychydig iawn wedi bod yn bresennol yma erioed. Neu fe all ddangos ei bod yn ymateb i dymheredd uwch ledled y byd ac yn symud i fyny i amodau claear mwy priodol. Mae’n dda bod gweithredu’n digwydd ar ran y chwilen hon, wrth i’r bartneriaeth Natur am Byth uno 9 o elusennau amgylcheddol a CNC i wireddu rhaglen dreftadaeth naturiol y wlad i achub rhywogaethau rhag difodiant. Gobeithiwn y bydd un rhan o’r cynllun hwn yn gwella ein dealltwriaeth o’r chwilen hudolus hon a gwireddu gweithrediadau cadwraeth positif i helpu i sicrhau ei dyfodol yn y tymor hir.
Ein cenadwri fel Cymdeithas Eryri yw “gwarchod a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri a hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw yn yr ardal, sy’n gweithio yma neu’n ymweld â’r ardal”. I mi, mae’r chwilen hon hon yn cynrychioli llawer o rinweddau arbennig Eryri – yn goroesi, yn hardd ond o dan fygythiad. Rydw i hefyd yn gwerthfawrogi mwy ar Yr Wyddfa; mynydd, yn fwy na llawer o’r lleill yn Eryri, sy’n hawdd ei ystyried fel lleoliad ar gyfer mynd am dro yn unig, rhywbeth i’w drechu neu hyd yn oed fel safle i’w aberthu fel rhywle sy’n denu cymaint o ymwelwyr i’r ardal. Fodd bynnag, mae’n llawer mwy nag unrhyw un o’r rhain. Mae’n fynydd byw, sy’n cynnal ystod o gynefinoedd a rhywogaethau pwysig a bregus, gydag o leiaf un chwilen sy’n byw yn unlle arall yn y DU.
Gobeithio y bydd y chwilod hardd a gwerthfawr hyn yn parhau i beri rhyfeddod, ynghudd ymysg teim gwyllt Yr Wyddfa am genedlaethau i ddod.
Cai Bishop-Guest
*Sylwer bod y rhywogaeth hon yn cael ei gwarchod gan y gyfraith rhag ei lladd, ei chasglu nag ymyrryd â hi a dim ond ei symud oddi ar y llwybr i lain mwy diogel wnes i.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk