Diolch enfawr i Sefydliad Garfield Weston!

Rydym yn falch iawn o gael ein gwobrwyo â £50,000 dros ddwy flynedd gan Sefydliad Garfield Weston, cynhyrchydd-grant a sefydlwyd gan deulu ac sy’n rhoi arian i gefnogi gwaith elusennau. Bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i Gymdeithas Eryri a bydd yn cynnal ei gwaith hanfodol a’n galluogi i barhau â’n gwaith i warchod Eryri, gwireddu ein gwaith cadwraeth ymarferol a helpu pobl i ddarganfod a gwerthfawrogi Eryri.

Nawr, yn fwy nag erioed, mae arnom angen gwarchod ein mannau arbennig a bydd y nawdd hwn yn ein helpu i wneud hynny. Bydd ein timau o wirfoddolwyr yn trwsio llwybrau, plannu coed, clirio sbwriel a rheoli cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt. Diolch i Sefydliad Garfield Weston am werthfawrogi a chefnogi ein gwaith ac ymdrechion ein gwirfoddolwyr.

Cysylltwch â jen@snowdonia-society.org.uk am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i gymryd rhan a rhoi rhywbeth yn ôl i Eryri.