Diolch i Ymddiriedolaeth Gymunedol y Cod Post

Diolch i Ymddiriedolaeth Gymunedol y Cod Post 

Rydym yn falch iawn o dderbyn gwobr o £25,000 gan Ymddiriedolaeth Gymunedol y Cod Post, elusen ddosbarthu grantiau a ariennir yn gyfan gwbl gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl. Defnyddir yr arian hwn i warchod Eryri drwy gefnogi ein gwaith cadwraeth ymarferol. Rŵan, yn fwy nag erioed, mae angen i ni warchod ein mannau arbennig a bydd yr arian hwn yn ein helpu i wneud hynny. Bydd ein timau o wirfoddolwyr yn trwsio llwybrau, plannu coed, clirio sbwriel a rheoli cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt. Cysylltwch â’n tîm am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i gymryd rhan a rhoi rhywbeth yn ôl i Eryri.