Diolch i’r aelod busnes Fabian4

Diolch i Ellie Salisbury, trefnydd y ras fynydd ddiweddar, Gladstone 9, am ei rhodd hael i’r Gymdeithas o elw’r ras fynydd. Mae cyswllt busnes Ellie Fabian4 yn darparu gwasanaethau mynediad ar-lein a thracio byw y sawl sy’n cymryd rhan ar gyfer ystod o ddigwyddiadau awyr agored fel Rasys Cyfnewid Bryniau Prydain. Mae gallu tracio’r rhai sy’n cymryd rhan yn fyw mewn lleoliadau cofnodi’n nodwedd ddiogelwch werthfawr ar unrhyw ras fynydd. Mae Ellie yn enghraifft wych o drefnydd digwyddiadau lleol sy’n gofalu eu bod yn cael eu rheoli mewn modd cyfrifol a pharchus er budd yr ardal leol.

Diolch i ti, Ellie, a dal ati efo’r gwaith gwych!