
Ein prosiect gwifoddoli Dwylo Diwyd: Mae Tyfu Caru Eryri wedi cael £249,940 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a weinyddir gan Gyngor Gwynedd. Bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n gwaith, ac yn ein galluogi i ddatblygu partneriaethau a gweithio i warchod mannau arbennig Eryri. O ganlyniad i’r gefnogaeth hon, ynghyd â chefnogaeth ein harianwyr eraill, llwyddodd ein tîm o staff, partneriaid a gwirfoddolwyr i:
- Gynnal >70 o ddyddiau gwaith gwirfoddolwyr a digwyddiadau
- Gasglu >1000kg o sbwriel
- Gynnal a chadw 28km o lwybrau troed
- Gydweithio gydag ystod o bartneriaid i warchod Eryri
Mae ein rhaglen ddigwyddiadau’r gaeaf bellach ar waith felly cofiwch edrych ar ein tudalen ddigwyddiadau er mwyn cymryd rhan.