Diolch i’r UTMB am godi £4,875!

Diolch enfawr i’r UTMB a threfnwyr Ultra-Trail Eryri am eu cefnogaeth arbennig i Gymdeithas Eryri yn ystod marathon 2024, gan godi £4,875! Rydym yn ddiolchgar am eu hymrwymiad i leihau effaith amgylcheddol y digwyddiad, gan weithio gyda phroject Yr Wyddfa Di-blastig er mwyn cwtogi ar y defnydd o blastigau un-defnydd, a threfnu gwirfoddolwyr i gasglu arwyddion y llwybr a sbwriel.