Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd! Mae’r ŵyn yn prancio, y cennin Pedr yn eu blodau, ac mae’r haul yn tywynnu (yn rhywle)! Ac, yn bwysicach na dim, mae un o rywogaethau mwyaf poblogaidd gwledydd Prydain yn ymddangos o’u cwsg dros y gaeaf, yn barod i grwydro ein gerddi unwaith eto.
Mae’r draenog Ewropeaidd (Erinaceus europaeus) i’w weld yn eang ledled y DU ac mae’n byw mewn amrywiaeth o gynefinoedd fel coedlannau, tir ffermio, parciau a gerddi. Mae’r draenog yn gaeafgysgu, fel arfer o fis Tachwedd ymlaen, ac yn ail-ymddangos rhwng canol mis Mawrth a mis Ebrill, yn dibynnu ar y tywydd. Yn famal y nos, mae’r draenog yn gallu crwydro cymaint â dwy filltir mewn noson!
Mae poblogaeth y draenog wedi lleihau’n ddifrifol yn y blynyddoedd diweddar, a bellach maen nhw mewn perygl o ddiflannu o’r DU. Mae sawl ffactor wedi cyfrannu at eu prinhad yn cynnwys colli a niweidio cynefinoedd priodol, prinhad yn y cysylltiad rhwng cynefinoedd, mwy o drafnidiaeth ar y ffyrdd, plaladdwyr, coelcerthi, a sbwriel.
Ond dyna ddigon ar fod yn negyddol! Mae cymaint o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan mewn helpu ein hoff gyfeillion pigog…
Bwyd
Tra’n gaeafgysgu mae draenogod yn colli oddeutu traean o’u pwysau. Wedi iddyn nhw ddeffro maen nhw’n bwyta cymaint â phosib er mwyn magu digon o bwysau eto. Yn bwyta pryfed yn bennaf, mae’r draenog yn reolwr plâu naturiol ac yn bwyta chwilod, pryfed clust, lindys, pryfed genwair, miltroediaid a larfâu pryfed. Dydy gwlithod a malwod ddim fel arfer yn brif ran o ddiet y draenog. Yn aml, bydd draenogod iach yn osgoi bwyta gwlithod a malwod yn gyfan gwbl oherwydd mae’n anodd iddyn nhw ddelio â’r hylif gludiog â gynhyrchir gan y creaduriaid. Serch hyn, mae’n dal yn hynod o bwysig osgoi defnyddio pelenni gwlithod yn eich gardd, gan fod y rhain yn gallu peri risg a gwenwyno draenogod. Yn hytrach, pam na wnewch chi fabwysiadu technegau sy’n gyfeillgar i fyd natur? Gellir defnyddio plisgyn wyau wedi eu pobi, cregyn môr wedi eu malu’n fân, gwastraff coffi, gwlân a hyd yn oed trwyth garlleg fel dulliau o gadw gwlithod draw mewn dull sy’n gyfeillgar i ddraenogod.
plisgyn wyau wedi eu pobi yn cadw gwlithod draw mewn dull sy’n gyfeillgar i ddraenogod.
Mae’r draenog yn bwydo ar beth bynnag sydd ar gael ac, yn aml, mae pobl yn denu draenogod i’w gerddi wrth adael bwyd ar eu cyfer. Fe all eu bwydo yn achlysurol gynnig cymorth iddyn nhw, ond cofiwch beidio â’u bwydo’n rhy aml, neu yn yr un lle, oherwydd mae’n bosib iddyn nhw ddod i ddibynnu gormod ar ffynonellau annaturiol o fwyd. Mae bisgedi plaen ar gyfer cathod bach, bwyd gwlyb sydd â chig ynddo fo ar gyfer ci neu gath, bwyd draenogod, moron, afalau, ac eirin fod yn ddewis da o fwyd iddyn nhw os hoffech ei osod ar eu cyfer. Peidiwch byth â gadael bara neu laeth i ddraenogod oherwydd mae’r rhain yn gallu achosi dolur rhydd, a hyd yn oed yn gallu eu lladd.
Technegau garddio sy’n gyfeillgar i fyd natur
Mae’r draenog yn nofio’n dda, ond yn ei chael yn anodd yn aml dringo allan o lynnoedd a phyllau a wnaed gan bobl. Os oes gennych bwll yn eich gardd chi, cofiwch osod craig neu hyd yn oed ramp ynddo i alluogi’r draenog i ddringo ohono.
Mae tomen o goed a chompost yn darparu mannau diogel i’r draenog aeafgysgu, magu a nythu, yn ogystal â denu pryfed iddyn nhw eu bwyta. Cofiwch wirio am ddraenogod cyn symud boncyffion neu balu’r domen gompost.
Gadewch gornel ‘wyllt’ neu lain o flodau gwyllt yn eich gardd. Wrth adael rhan o’ch gardd heb ei thrin o gwbl byddwch yn denu bywyd gwyllt wrth ddarparu lleiniau o gynefin a bwyd. Bydd sicrhau llain o flodau gwyllt yn eich gardd hefyd yn cynyddu bioamrywiaeth yn sylweddol, ac yn denu ystod ehangach o rywogaethau, yn enwedig pryfed peillio, a helpu i gynnal iechyd pridd.
I ddysgu mwy am dechnegau garddio sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt, ymunwch â ni ar ein dyddiau garddio yn y Tŷ Hyll.
Mae dyddiau garddio er lles natur yn digwydd unwaith y mis yn Nhŷ Hyll
Cyswllt rhwng cynefinoedd
Mae cynnal tirlun ehangach gyda chysylltiadau yn ffordd arall o warchod draenogod, yn enwedig o ystyried bod tiriogaeth draenog yn gallu bod cymaint â 20 hectar o ran maint!
Mae cynnal a chynyddu gwrychoedd yn darparu safleoedd nythu, lloches, a gwarchodaeth rhag ysglyfaethwyr, yn ogystal â chynyddu poblogaethau o bryfed sy’n ysglyfaeth i’r draenog. Mae gwrychoedd sydd â chysylltiad da rhyngddyn nhw a mieri’n tyfu wrth eu bôn yn hanfodol o ran galluogi draenogod i grwydro ledled y tirlun a dod o hyd i loches, bwyd, a chymar. Mae’n well gan ddraenogod hefyd deithio ar hyd nodweddion llinellol yn y tirlun, felly gorau oll os yw’r gwrychoedd yn cael eu cynnal yn dda!
Os ydych chi’n byw mewn ardal drefol, cofiwch sicrhau bod twll bach (13cm wrth 13cm) mewn unrhyw derfyn tir fel ffensys i alluogi draenogod i symud yn rhwydd trwy’r tirlun. Cysylltwch eich gardd chi â’r “ffordd fawr i ddraenogod” ledled y wlad rŵan!
Mae Cymdeithas Eryri yn cynnal llawer o ddyddiau i wirfoddolwyr helpu i gynnal cysylltedd rhwng cynefinoedd. Er ein bod wedi dod i ddiwedd y tymor plannu coed a gwrychoedd, edrychwch a oes gennym ni ddyddiau cynnal coedlannau!
Gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri yn brysyr yn plannu gwrychoedd
Bod yn ymwybodol
Mae’r ffaith eich bod hyd yn oed yn darllen yr erthygl hon yn dangos eich bod yn pryderu digon i fynd ati i newid er mwyn helpu ein draenogod! Diolch yn fawr!
Os ydych chi’n un o’r bobl ffodus sydd â draenog yn crwydro eich gardd, cofiwch yrru manylion am ei ymweliadau. Mae sawl ffordd o gofnodi ymweliadau, yn cynnwys trwy eu hychwanegu at ‘Fap MAWR y Draenogod”. Mae hyn yn ein helpu ni i ddeall yn lle mae draenogod ac ym mhle maen nhw ar goll, a’n galluogi i reoli’r cynefinoedd hyn yn well er mwyn denu draenogod.
Er ein bod i gyd yn awyddus i weld y mamal dirgel hwn, mae’n hynod o bwysig nad ydyn ni’n aflonyddu ar y draenog. Un o’r adegau gorau i’w gweld yw yn ystod y nos, ac maen nhw’n gallu bod yn swnllyd iawn gyda’u synau pwffian a chwythu. Y ffordd orau i’w gweld wrth beidio ag aflonyddu arnyn nhw ydy wrth ddefnyddio camera bywyd gwyllt. Fodd bynnag, os hoffech eu gweld, y ffordd orau i chwilio o gwmpas eich gardd yw gyda golau coch; ni all y draenog weld y lliw coch. Mae’n bwysig hefyd cofio cadw anifeiliaid anwes draw gan eu bod yn aml yn gallu dychryn, niweidio neu hyd yn oed ladd draenogod.
Os cewch hyd i ddraenog wedi ei anafu, gwisgwch fenig trwchus neu defnyddiwch liain sychu i’w godi yn ofalus. Ewch â’r draenog i’ch canolfan fywyd gwyllt leol, eich ysbyty draenogod lleol neu eich milfeddyg lleol. Os na allwch wneud hyn yn syth bin, rhowch y draenog yn rhywle cynnes a distaw o dan do. Gallwch ddarparu ychydig o fwyd neu ddŵr pe bai angen hynny.
Gallwch hefyd gofrestru i weithredu fel rhywun sy’n meithrin draenogod wedi eu hanafu gyda’ch canolfan fywyd gwyllt lleol neu ganolfan achub draenogod leol.
Mae helpu draenogod yn helpu pawb
Mae’r canllawiau a amlinellir yn yr erthygl hwn yn wych i ddraenogod ac mi fyddan nhw’n debygol o gynyddu bioamrywiaeth bywyd gwyllt. Felly, wrth fabwysiadu’r technegau hyn ar ran y draenog, byddwch hefyd yn helpu amrywiaeth eang o rywogaethau eraill.
Gyda’r newid yn y tymor a dyfodiad y gwanwyn, cofiwch chwilio am rywogaethau eraill sy’n ymddangos megis breninesau cacwn, gloÿnnod byw, chwilod, a’r buchod coch cota cyntaf a dychweliad llawer o adar fel y telor penddu, y siff-siaff a gwennol y glennydd. Bydd egin coed yn ymddangos, eu blodau’n agor, a blodau cyntaf y gwanwyn yn dod i’r golwg. Cofiwch chwilio am eirlysiau, saffrwn, blodau’r gwynt, blodau’r gog a chlychau’r gog.
Am fwy o wybodaeth am gadwraeth draenogod, ewch i:
https://www.britishhedgehogs.org.uk/
https://www.woodlandtrust.org.uk/trees-woods-and-wildlife/animals/mammals/hedgehog/
https://www.rspca.org.uk/adviceandwelfare/wildlife/hedgehogs
https://thewildlifecommunity.co.uk/blogs/the-wildlife-community-blog/hedgehog-care-after-hibernation
Am gyngor am beth i’w wneud gyda draenog sydd wedi ei anafu, ewch i:
https://www.rspca.org.uk/adviceandwelfare/wildlife/hedgehogs/injured
https://www.britishhedgehogs.org.uk/found-a-hedgehog/
Neu cysylltwch â rhif argyfwng Cymdeithas Gwarchod Draenogod Gwledydd Prydain (The British Hedgehog Preservation Society Emergency) ar: 01584 890801
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk