Dweud eich dweud! Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ymgynghori ar Gynlluniau Rheoli ar gyfer 14 o Ardaloedd Cadwraeth o fewn y Parc Cenedlaethol.

Os mai dyma le rydych chi’n byw neu rywle rydych chi’n ei adnabod yn dda, dyma’ch cyfle i gyfrannu at y drafodaeth. Beth fyddai’n gwneud yr Ardaloedd Cadwraeth hyn yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif?

Cyhoeddir y dogfennau canlynol ar ffurf drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus:

• Ardaloedd Cadwraeth sy’n Addas ar gyfer yr 21ain Ganrif: Cyflwyniad a Throsolwg Polisi Cynllunio

• Gwerthusiadau a Chynlluniau Rheolaeth Unigol ar gyfer pob Ardal Gadwraeth:

1. Aberdyfi
2. Abergwyngregyn
3. Bala
4. Beddgelert
5. Betws Y Coed
6. Abaty Cymmer
7. Dolbenmaen
8. Dolgellau
9. Harlech
10. Llanllechid
11. Maentwrog
12. Nantmor
13. Nant Peris
14. Pandy’r Odyn

• Cyngor ar Fesurau Effeithlonrwydd Ynni mewn Ardaloedd Cadwraeth – Canllaw Cynllunio ac Ymarferol

Pwrpas Prosiect yr Ardaloedd Cadwraeth sy’n addas ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain, yw datblygu Gwerthusiadau a Chynlluniau Rheolaeth ar gyfer pob Ardal Gadwraeth. Bydd y cynlluniau hyn yn cynnwys datganiad o arwyddocâd a chynllun gweithredu i warchod a gwella’r Ardaloedd yn gynaliadwy, gyda phwyslais arbennig ar eu gwneud yn fwy ynni-effeithlon.

Yn benodol, bydd y Gwerthusiadau’n diffinio’r hyn sy’n bwysig am yr Ardaloedd ond hefyd, trwy ddadansoddi, yn dechrau nodi lle mae materion, cyfleoedd a ffactorau eraill. Bydd y Cynlluniau Rheoli dilynol yn darparu fframwaith i reoli’r Ardaloedd Cadwraeth yn effeithiol, gan wella a gwarchod eu cymeriad arbennig mewn ffordd gadarnhaol a rhagweithiol, a darparu arweiniad effeithiol i’r rhai sy’n byw, yn gweithio, yn buddsoddi yn yr ardaloedd ac yn eu rheoli.
Dylai sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad hwn ymdrin â chynnwys y ddogfennau hyn yn unig, ac felly nid yw’n gyfle i ddiwygio polisïau perthnasol y CDLl a fabwysiadwyd.

Mae’r ddogfennau ar gael i’w harchwilio:

• yn Swyddfa’r Parc Cenedlaethol ym Mhenrhyndeudraeth;
• ar wefan yr Awdurdod; https://cynllunio.eryri.llyw.cymru/polisi/prosiect-ardaloedd-cadwraeth.

Dylid anfon yr holl ymatebion at ACaddasC21@eryri.llyw.cymru neu drwy’r post at:

Y Tîm Polisi (Ardaloedd Cadwraeth),
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddfa’r Parc Cenedlaethol
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6LF

Caniateir tan 5yh ar 11eg Dachwedd 2022 i chi ymateb.

Unwaith y bydd yr Awdurdod wedi ystyried yr ymatebion sydd wedi dod i law, bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n cymeradwyo’r dogfennau’n ffurfiol ac yn eu cyhoeddi ar ffurf derfynol, gan gynnwys unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt. Wedi hynny, bydd y dogfennau hyn yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau Cynllunio, yn ogystal â bod yn Gynlluniau Gweithredu ar gyfer yr Ardaloedd.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r adran polisi cynllunio ar 01766 770274 neu e-bostiwch polisi.cynllunio@eryri.llyw.cymru.