Y mis diwethaf, fe wnaeth Burman’s Martial Arts gynnal twrnamaint ‘kata’ yn Llanberis i godi arian at Gymdeithas Eryri.
Fe wnaeth plant ac oedolion sy’n aelodau o’r clwb ddangos eu sgiliau i lu o wylwyr y bydd eu cyfraniadau yn cael eu defnyddio i ariannu gwaith Cymdeithas Eryri yn gwarchod Eryri.
Fe wnaeth y trefnydd Karen Durber enwebu Cymdeithas Eryri fel elusen y flwyddyn y clwb ym mis Ionawr. Dywedodd:
“Roedd yn gwneud synnwyr i ni i sicrhau y byddai Cymdeithas Eryri yn elwa o’n digwyddiadau codi arian yn 2018, o gofio fod cymaint o’n haelodau a’n teuluoedd wrth eu bodd ag Eryri ac yn dymuno helpu i’w gwarchod.”
Codwyd cyfanswm o £95 mewn un noson yn unig. Defnyddir yr arian hwn i ariannu gwaith ymarferol y Gymdeithas gyda gwirfoddolwyr ym mhob cwr o’r Parc Cenedlaethol.
Diolch o galon i Burman’s Martial Arts am yr enwebiad, ac i’r aelodau a’r gwylwyr oedd yn bresennol yn y digwyddiad.
A oes gennych chi syniad i godi arian? Os hoffech chi drefnu digwyddiad i godi arian at Gymdeithas Eryri, cysylltwch â ni.
info@snowdonia-society.org.uk
01286 685498
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk