Gwirfoddoli: Cyfle i ddinistrio rhywbeth heb i neb ddweud y drefn!

Mae pobl yn gwirfoddoli gyda Chymdeithas Eryri o bob cefndir, o bob oedran a chefndir, gan ddod at ei gilydd i weithio er lles tirweddau a chynefinoedd Parc Cenedlaethol Eryri. Mae llawer o wahanol fathau o weithgareddau i gymryd rhan ynddynt, o helpu mewn meithrinfeydd coed i adeiladu llwybrau troed i osod blychau i adar ac ystlumod a mwy.

Ymunodd Ewan, disgybl blwyddyn 10 â ni yn ddiweddar am wythnos o weithgareddau gwirfoddoli gan gynnwys tynnu pidyn y gog, cynnal a chadw llwybrau troed a chodi sbwriel. Cewch gipolwg ar sut beth yw bod yn wirfoddolwr gyda Chymdeithas Eryri o’r hyn sydd gan Ewan i’w ddweud:

‘Hoffwn argymell fod pawb sy’n hoff o weithio yn yr awyr agored ym myd natur wrth warchod yr amgylchedd yn helpu’r Gymdeithas. Hefyd, mae’n lle da i fagu profiad gwaith.

Un o’r pethau wnes i fwynhau fwyaf oedd pan oeddem yn chwalu’r carneddau answyddogol oherwydd mi ges i ddinistrio rhywbeth heb i rhywun ddweud y drefn wrtha’i! Yna, defnyddiwyd y creigiau i ail-wynebu’r llwybr i rwystro erydiad pellach o’r llwybr.

Un o’r pethau eraill wnes i fwynhau’n arbennig oedd dod i adnabod ffrindiau newydd na fyddwn wedi eu cyfarfod fel arall; hefyd, dysgais lawer o bethau newydd.

Rhai o’r pethau rhyfedd y cawsom hyd iddyn nhw wrth gasglu sbwriel oedd clytiau babi, crys-T, sandalau/fflip fflops, sosban, powlen a llwyau, lliain, dalwyr pupur a halen a photel o fodca.

Rhesymau pam y dylech ddod yn wirfoddolwyr i Gymdeithas Eryri.

  1. Byddwch yn cyfarfod llawer o bobl newydd gwych
  2. Byddwch yn dysgu llawer o ffeithiau/medrau newydd
  3. Byddwch yn cael gweld lleoedd hardd wrth eu gwarchod
  4. Byddwch yn dod yn rhan o gymuned wych o bobl sy’n helpu i warchod harddwch Eryri
  5. Byddwch yn gwneud llawer o bethau llawn hwyl a chyffro.

Diolch eto am eich cymorth.  Gobeithio y gallaf ymuno efo chi yn yr haf.

Diolch enfawr i Ewan – ac i’n holl wirfoddolwyr am y gwaith gwych y maent yn ei wneud a’r cyfraniad sylweddol y maent yn ei wneud i ofalu am Eryri. Mae gennym lwyth o weithgareddau ar y gweill yr haf hwn; ewch i’n tudalen digwyddiadau am restr lawn.

Byddem wrth ein bodd i’ch gweld chi yno!

Ewan a’i gyd-wirfoddolwr Ian yn codi sbwriel ar Yr Wyddfa