Gwirfoddoli: Rhywbeth i bawb

‘Mae gwirfoddoli gyda Chymdeithas Eryri yn un o’r profiadau mwyaf gwerth chweil a gewch yma yng ngogledd Cymru. Ers cychwyn yn ôl ym mis Rhagfyr 2022 rydw i wedi mynychu llawer o ddyddiau ac wedi dysgu medrau lu a chael profiadau newydd.’

Mae gan Fay brofiad helaeth fel gwirfoddolwr Cymdeithas Eryri. Clywch ganddi sut brofiad yw bod allan gyda staff a chyd-wirfoddolwyr, yn helpu i warchod tirweddau Eryri.

‘Yr hyn sy’n gwneud y Gymdeithas mor unigryw fel corff sy’n cynnig gwirfoddoli yw’r ffordd y mae wedi ei drefnu ar gyfer gwirfoddolwyr – gallwn logio i mewn i ‘better impact’, gweld beth sydd ar y gweill yn yr wythnosau i ddod, cyn dewis dyddiau penodol, yn ôl yr amser sydd gennym i’w roi. Gallwch hefyd ganslo’n hawdd ar y wefan os na fyddwch yn gallu dod am ba bynnag reswm. Yr hyn sy’n wych hefyd yw bod y gweithgareddau ar gyfer pobl o bob lefel o ffitrwydd gan eu bod yn amrywio o’r hawdd i’r anodd, sy’n golygu bod modd i unrhyw un wirfoddoli yn ôl eu dymuniad – mae rhywbeth i bob cenhedlaeth ei fwynhau.

Tynnu Jac y Neidiwr ym Methesda fel rhan o ddiwrnod hyfforddiant achrededig gyda Phartneriaeth Tirwedd y Carneddau

Yn ogystal â’r ffordd y mae’r wefan wedi ei sefydlu, mae hefyd sawl corff a chymdeithas yn cydweithio i gynnig amrywiaeth o weithgareddau i chi gymryd rhan ynddyn nhw. Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi wneud yr un peth bob wythnos; gallwch roi cynnig ar unrhyw beth ac os nad yw’n addas i chi, gallwch symud ymlaen i rhywbeth arall. Mae’n system wych a dwi’n credu mai dyna pam ei bod mor llwyddiannus. Gyda phob gweithgaredd newydd y rhowch gynnig arno, rydych yn magu medrau a gwybodaeth y gallwch eu defnyddio mewn meysydd eraill o’ch bywyd.

Gweithdy celf golosg – Penwythnos Mentra a Dathlu 2023

Wedi dweud hynny, un o’r pethau gorau am wirfoddoli ydy’r bobl. Dydw i erioed wedi cyfarfod grŵp mor hyfryd ac ymroddedig, a di-lol, o weithwyr a gwirfoddolwyr mewn un lle. Mae gwirfoddoli wedi rhoi cyfle i mi gyfarfod pobl o bob math o gefndir ond mae gennym i gyd un peth yn gyffredin, sef ein cariad tuag at gadwraeth a’r awyr agored.

Mae hi wedi bod yn wych i fy mhlant gymryd rhan mewn clirio sbwriel o’r traethau a’r penwythnos Mentro a Dathlu; gwnaed ymdrech lew gan y trefnwyr i roi profiadau addysgiadol a llawn hwyl i’r plant gyda gweithgareddau fel casglu hadau, adnabod coed a hyd yn oed taith gerdded hudolus gyda stori. Rydw i wir am drosglwyddo fy angerdd am gadwraeth a gwerthfawrogi byd natur i’m plant. Rydym mor ffodus i fod mor agos i’r Parc Cenedlaethol ac rydw i’n teimlo cysylltiad agos ag o. Teimlaf bod Cymdeithas Eryri yn un o’r ffyrdd gorau o ysbrydoli’r genhedlaeth iau, gan roi cyfleoedd addysgiadol iddyn nhw yn ogystal â phrofiadau bythgofiadwy.’

Mae Fay wedi bod yn gwirfoddoli gyda Chymdeithas Eryri ers 2022 ac ar hyn o bryd yn cymryd brêc am resymau iechyd. Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd sydd gennym ar y gweill, ewch i’n tudalen digwyddiadau. Neu os oes gennych ddiddordeb mewn dod fel grŵp, e-bostiwch jen@snowdonia-society.org.uk

Tynnu carneddi ar Yr Wyddfa

Ein prosiect gwifoddoli Dwylo Diwyd: Mae Tyfu Caru Eryri wedi cael £249,940 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a weinyddir gan Gyngor Gwynedd.