Un o’n hoff bethau ynglŷn â’r hyn yr ydym yn ei wneud yma yng Nghymdeithas Eryri yw gweithio gyda phobl hyfryd o bob cwr o Eryri a thu hwnt. Yn ein fideo YouTube diweddar, mae Peri’n sgwrsio gyda dau o’n gwirfoddolwyr rheolaidd, Hanna Storey-Arnell a Kevin Jones, sy’n nodi beth maen nhw’n ei gael o’r cynllun gwirfoddolwyr a pham eu bod yn dod yn ôl am fwy o hyd!
I Hanna, eisiau bod yn rhan o’i hamgylchedd newydd oedd hi wrth gyfarfod pobl ar hyd y daith. “Dim ond yn ddiweddar rydw i wedi symud i Gymru’n iawn ac rydw i’n teimlo fy mod wedi cael fy nghynnwys yn y gymuned wrth wneud pethau fel hyn. Rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau a phethau hefyd, sy’n dda.”
I Kevin, mae ymuno â’n dyddiau cadwraeth yn golygu cyfarfod pobl o’r un anian, rhwydweithio, a rhannu ei wybodaeth am yr iaith Gymraeg gyda gwirfoddolwyr eraill sy’n dysgu’r iaith neu sydd am ymarfer.
Mae o wrth ei fodd yn mynd i’r afael â rhywogaethau ymledol yn arbennig, a phob tro y bydd yn dod allan, mae’n cael hwb i wneud mwy.
O wirfoddolwyr lleol sy’n dymuno gwarchod eu llecyn gwyllt eu hunain i ymwelwyr sy’n dymuno rhoi rhywbeth yn ôl i Eryri yn ystod eu hymweliad, rydych i gyd yn gwneud gwahaniaeth rhyfeddol wrth warchod y tirlun. Mae hyn yn golygu bod gan genedlaethau’r dyfodol ardaloedd hardd sy’n llawn o fioamrywiaeth a hanes cyfoethog i’w mwynhau.
Os ydych wedi bod yn ystyried gwirfoddoli gyda ni, does dim gwell amser i gofrestru ar-lein! Wedi i chi nodi eich manylion, cewch weld ystod o weithgareddau cadwraeth ar ein calendr My Impact. Cewch ddewis y dyddiau yr hoffech ymuno â nhw, ac fe anfonwn ni bopeth y mae angen i chi ei wybod ymlaen llaw.
Y peth gwych ydy mai chi sy’n rheoli. Os oes gennych amserlen brysur ac yn gallu dod draw dim ond unwaith neu ddwy y flwyddyn, neu os hoffech gymryd rhan yn fwy aml, mae gennym ddewisiadau i chi.
“Rydym yn gwneud pethau rhyfeddol i Barc Cenedlaethol Eryri, a hynny ydy’r peth pwysicaf. Mae pawb am weld y Parc Cenedlaethol yn parhau yn hardd!” – Hanna
Ewch i weld y fideo yma i wybod beth arall oedd gan y ddau i ddweud am eu profiadau o wirfoddoli:
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk