Helpwch i achub byd natur – cefnogwch ffermio cynaliadwy yn Eryri!
Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn yr e-weithred y gwnaethom helpu i’w drefnu i annog Llywodraeth Cymru i gefnogi ffermio cynaliadwy yn ein Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Dynodedig eraill.
Y newyddion da yw bod cant ohonoch wedi gwneud hynny. Fe wnaethoch chi helpu i’w gwneud yn glir i Lywodraeth Cymru bod pobl yn poeni am fywyd gwyllt a’u bod nhw eisiau ffermwyr gael eu cefnogi i gymryd camau syml a all wneud byd o wahaniaeth wrth greu a chynnal gofod ar gyfer natur o fewn y dirwedd amaethyddol, law yn llaw â chynhyrchu bwyd iach a maethlon, wrth gwrs.
Bu newyddion da a drwg ers hynny. Ar 21 Mawrth gymerodd y Gweinidog newydd, Huw Irranca Davies, ran mewn cyfarfod o Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd. Wrth holi tyst a oedd yn ymddangos gerbron y Pwyllgor, tynnodd Mr Irranca Davies sylw’n benodol at yr opsiwn o greu rhaglen ffermio cynaliadwy a thirwedd ddynodedig drwy haenau dewisol a chydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Hynny oedd y cynnig allweddol y gwnaethon ni alw amdano yn yr e-weithred. Mae hyn yn dangos bod yr ymgyrch o leiaf wedi codi’r mater ym meddwl y Gweinidog.
Daeth newyddion mwy siomedig ar 14 Mai, pan gyhoeddodd Mr Irranca Davies y byddai’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cael ei ohirio am flwyddyn, a hynny yn dilyn yr ymateb negyddol i gynigion Llywodraeth Cymru. Y broblem yma yw ein bod ni eisoes yn wynebu argyfwng natur. Mae un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o diflannu o’r wlad. Roedd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy i fod i gael ei gyflwyno’n raddol beth bynnag. Fydd ei ohirio am flwyddyn arall yn golygu y bydd ffermwyr sy’n gyfeillgar i natur yn gorfod aros yn hirach byth cyn derbyn yr help sydd ei angen arnynt i ffermio mewn ffyrdd a fydd yn cefnogi adferiad y gylfinir, y Cennin Pedr Cymreig neu’r eog.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk