Rydym wedi cael blwyddyn wych o ddigwyddiadau ar thema Llinellau yn y Tirlun diolch i Gronfa Grant Cymunedol y Grid Cenedlaethol. Mae hi wedi bod yn wych ymgysylltu â thirlun Parc Cenedlaethol Eryri mewn ffyrdd sy’n ymarferol, addysgiadol, creadigol ac, ar adegau, yn hwyl!
Rydym wedi cael y cyfle i roi cynnig ar fedrau traddodiadol sy’n cynnal ein tirlun megis codi cloddiau cerrig sych gyda Julian Thompson o Ganolfan Cadwraeth Pensychnant, a phlygu gwrych gyda Joseff o Fferm Llwyngwilym, Dinas Mawddwy. Roedd yn hyfryd dysgu ac ymarfer y medrau hynafol yma sydd wedi eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall a gobeithiwn y bydd y traddodiad yma’n parhau yn y dyfodol.
Cawsom ein ysbrydoli ar deithiau tywys difyr, o’r hanes diwydiannol sydd wedi llunio’r Wyddfa gyda’r arweinydd mynydd Keith Hulse, i ddilyn y llinellau map sydd o’n cwmpas ond na allwn eu gweld efo Mike Raine. Mae Kathy Laws, Archeolegydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, wedi rhoi cipolwg i ni ar hanes dyn yn ardal mynyddoedd y Carneddau, ac rydym wedi dod ar draws byd dirgel sy’n ein amgylchynu wedi iddi dywyllu ar daith ystlumod gyda Sam Dyer yn Tŷ Hyll.
Rydym wedi datblygu ein ochr creadigol gydag Arweiniwyd gan Fyd Natur, wrth ddefnyddio inc a thechnegau traddodiadol i greu llyfryn sy’n golygu rhywbeth personol, ac wedi rhoi cynnig ar dynnu llun mewn golosg gyda Peri Smith o’r Gymdeithas. Roedd dysgu sut i wehyddu gyda helyg o dan arweiniad y ddawnus Eirian Muse o Helyg Lleu yn rhoi cipolwg i ni o’r medr hardd hwn.
Mae Eryri yn llawn o linellau sy’n ein galluogi i ddeall a chrwydro’r tirlun, o lwybrau a thraciau i afonydd a chyfuchlineddau. Mae’n datgelu straeon dyn a byd natur os wyddwn ni ym mhle i edrych. Mae hi wedi bod yn wych gweithio gydag aelodau o’r cyhoedd a grwpiau cymunedol eleni drwy gyfrwng y project Llinellau yn y Tirlun, i ymgysylltu gyda’r Parc Cenedlaethol a’i werthfawrogi, ac efallai ychwanegu pwt bach o linell at ein straeon ein hun.
Gyda diolch i Raglen Cronfa Grant Cymunedol y Grid Cenedlaethol.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk