
Gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth glirio mynydd prysuraf y byd
Cymdeithas Eryri Bydd Cymdeithas Eryri yn cynnal ei CCB ym Mhlas y Brenin ar 18 Tachwedd ac yn dathlu blwyddyn wyllt o weithio gyda gwirfoddolwyr i daclo rhai o’r bygythiadau mwyaf i Barc Cenedlaethol Eryri.
Hyd yn hyn eleni mae gwirfoddolwyr ymroddedig wedi treulio dros 4,256 awr yn plannu coed yng Nghwm Mynach, yn torri rhedyn ac eithin i ffwrdd o amgylch henebion fel cylchoedd cytiau Oes yr Haearn yn y Carneddau, yn rheoli Jac y Neidiwr ymledol ac yn codi sbwriel ar y llwybrau’r Wyddfa, sef mynydd prysuraf y byd. Casglodd gwirfoddolwyr ein prosiect partneriaeth blaenllaw 1,282kg, 517 bag o sbwriel a helpu i gynnal 28km o lwybrau troed.
Mae prosiect gwirfoddol Cymdeithas Eryri, Dwylo diwyd: Tyfu Caru Eryri, wedi derbyn £249,940 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd. Mae’r Gymdeithas hefyd yn falch iawn o fod wedi derbyn cyllid i gefnogi ei gwaith cadwraeth, digwyddiadau a hyfforddiant gan Gyfoeth Naturiol Cymru, Rhaglen Grantiau Cymunedol Trawsyrru Trydan y Grid Cenedlaethol, Partneriaeth Tirwedd y Carneddau, Ymddiriedolaeth Gymunedol Cod Post – elusen sy’n rhoi grantiau a ariennir yn gyfan gwbl gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.
Mae Rory Francis newydd gael ei benodi’n Gyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, ar ôl llenwi’r rôl hon am chwe blynedd yn y 1990au. Meddai: “Mae bron i 4 miliwn o bobl yn ymweld ag Eryri bob blwyddyn, gyda 700,000 ohonynt yn ymweld â’r Wyddfa, mynydd prysuraf y byd. Mae’n wych bod Cymdeithas Eryri yn gallu cefnogi, hyfforddi a darparu offer i dimau gwirfoddol i ofalu am y Parc Cenedlaethol, er budd bywyd gwyllt, tirweddau, ymwelwyr, a chymunedau lleol.
“Rydym wedi gallu gwneud hyn diolch i’n tîm staff ymroddedig, ein hymddiriedolwyr cydwybodol, 1,300 o aelodau ymroddedig, ein cyllidwyr hael ac yn wir y sefydliadau partner rydym yn cydweithio â nhw. Yn yr hinsawdd anodd sydd ohoni mae’r Gymdeithas yn wynebu her enfawr i dalu am y gwaith hwn, ond dros yr wythnosau nesaf, mae gennym gyfle arbennig i wneud gwahaniaeth. Trwy The Big Give, bydd pob punt a roddir rhwng 28 Tachwedd a 5 Rhagfyr yn cael ei dyblu, diolch i’n Hyrwyddwr Sefydliad Reed. Gall aelodau a chefnogwyr wneud hyn ar-lein yn: www.snowdonia-society.org.uk
“Mae Eryri yn wynebu sawl her. Fel gweddill y byd, mae angen inni fynd i’r afael â’r hinsawdd ac argyfwng byd natur, ond mae ein haelodau’n benderfynol o wneud gwahaniaeth a helpu gofalu am y lle arbennig iawn hwn. Rydym yn awyddus iawn i weithio gyda phobl ifanc i ymgymryd â’r heriau hyn. Gall pawb helpu. Os oes gennych ychydig oriau i’w sbario, yna mae gennym rai cyfleoedd gwirfoddoli gwych sy’n addas ar gyfer pob diddordeb a gallu. Edrychwch ar: www.snowdonia-society.org.uk/cy/gwirfoddoli
DIWEDD
Os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch â Rory Francis, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri. E-bost: director@snowdonia-society.org.uk Ffôn: 01286 685498 neu 07539 322678
Gwybodaeth bellach: www.snowdonia-society.org.uk
Nodyn i Olygyddion
Cymdeithas Eryri, Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd yn 1967, yw’r elusen sy’n gweithio i warchod a gwella Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r Gymdeithas yn gweithio gyda sefydliadau eraill a chymunedau lleol i sicrhau y gall cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol fwynhau tirweddau, bywyd gwyllt a diwylliant Eryri. Mae gan Gymdeithas Eryri 1400 o aelodau.