Mae’r naturiaethwr Iolo Williams a mil o bobl eraill wedi codi llais o blaid gwarchod rhaeadr sydd wedi ysbrydoli storïwyr, artistiaid a beirdd dros fileniwm
Y naturiaethwr, y cyflwynydd teledu a’r cadwraethwr Iolo Williams yw’r diweddaraf i godi llais o blaid gwarchod un o raeadrau mwyaf eiconig Eryri, Rhaeadr y Cwm ger Llan Ffestiniog. Mae hwn o dan fygythiad ar hyn o bryd oherwydd cynllun trydan dŵr ar raddfa fechan a fyddai, ar adegau, yn gweld bron i 70% o’i ddŵr yn cael ei ddargyfeirio trwy bibell o amgylch y rhaeadr.
Daeth y cyfnod ymgynghori ffurfiol ar y cais i ben ddiwedd mis Medi ac, yn hynod anarferol, danfonwyd dros 1,000 o wrthwynebiadau unigol gan aelodau o’r cyhoedd. Gwnaeth llawer hynny trwy dudalen we e-weithredu a sefydlwyd gan Gymdeithas Eryri, Achub ein Hafonydd, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Buglife. Ac roedd dros 500 o’r gwrthwynebiadau hyn yn lleol, o Ogledd Cymru.
Mae’r cais yn un dadleuol oherwydd bod y ceunant dan sylw wedi’i ddynodi’n SoDdGA oherwydd y planhigion prin iawn sy’n hoffi lleithder sy’n tyfu yno, ac oherwydd bod tynnu symiau sylweddol o ddŵr yn peryglu newid yr amodau sy’n ei wneud yn arbennig. At hynny, ni fyddai swm y trydan adnewyddadwy a gynhyrchir yn sylweddol. Dim ond 600kW fyddai capasiti’r cynllun. Mewn geiriau eraill, byddai angen deuddeg cynllun fel hwn i gynhyrchu cymaint o drydan â dim ond un tyrbin gwynt modern1.
Pryder y gellid cymeradwyo’s cais
Ond mae amgylcheddwyr yn pryderu y gallai’r cynllun gael ei gymeradwyo serch hynny, oherwydd bod y datblygwyr wedi datgan ar eu ffurflen gais eu bod nhw wedi derbyn cyngor o Awdurdod y Parc Cenedlaethol cyn cyflwyno’r cais sy’n nodi: “Mae egwyddor y cynllun [yn] cael ei ystyried yn dderbyniol.”
Erbyn hyn mae Awdurdod y Parc wedi datgan nad yw hyn yn wir ac mae Cymdeithas Eryri yn derbyn hynny. Mae’n dal i bryderu, fodd bynnag, fod y datblygwyr wedi derbyn trwydded o Gyfoeth Naturiol Cymru yn barod i dynny dwr o’r afon.Mewn ymateb i hyn, dywed Iolo Williams: “Mae Rhaeadr y Cwm wedi ei ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o achos y gymdeithas o is-blanhigion sy’n tyfu mewn awyrgylch mor wlyb. Buasai tynnu bron 70% o’r dŵr yn niweidiol dros ben i’r rhedynau a mwsoglau prin. Dwi’n gefnogol iawn o ynni gwyrdd cymdeithasol ond dim pan mae’n golygu dinistrio harddwch naturiol Cymru.”
Tair gwaith dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf mae cynlluniau wedi eu cyflwyno ar gyfer cynllun trydan dŵr yng Nghwm Cynfal. Tair gwaith maent naill ai wedi cael eu gwrthod neu eu tynnu’n ôl. Ond ym mis Gorffennaf fe wnaeth y datblygwyr gyflwyno cais arall yn ffurfiol.
Meddai Rory Francis, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri Cymdeithas Eryri: “Mae Cwm Cynfal yn lle sydd wedi ysbrydoli storïwyr, artistiaid a beirdd dros fileniwm. Dyma dirwedd sy’n gysylltiedig â chwedlau’r Mabinogion ac sydd hefyd wedi’i darlunio gan David Cox yn 1836 yn ei baentiad eiconig Rhaiadr Cwm. Mae’n un o raeadrau mwyaf mawreddog Eryri. Ond nawr mae’n cael ei fygwth unwaith eto gan gynllun trydan dŵr a fyddai’n gweld argae ar yr afon ac ar adegau, bron 70% o’r dŵr yn cael ei ddargyfeirio allan o’r rhaeadr.”
Mae cadwraethwyr yn pwysleisio eu bod yn cefnogi’n gryf yr angen i ddatgarboneiddio’r economi. Ond gydag unrhyw gynllun ynni adnewyddadwy, mae angen pwyso a mesur y difrod yn erbyn y buddion.
Cloddio gwaelod yr afon
Un pryder penodol yw, yn anarferol, y byddai’r bibell fyddai’n cario’r dŵr yn croesi o dan yr afon. Mae’r datblygwyr yn bwriadu cloddio gwaelod yr afon, gosod y bibell, ei hangori mewn concrit ac yna ailosod gwaelod a glannau’r afon. Wrth sôn am hyn, dywed Dan Yates o Save our Rivers: “Nid yw hyn yn arfer safonol mewn adeiladu ynni dŵr arferol. Nid oes unrhyw fanylion penodol na diagramau gweithio o ran sut y gellid cyflawni hyn. Mae risg sylweddol y bydd y pibell yn cael ei dadorchuddio trwy erydiad ar ôl ei hadeiladu neu i’r afon wyro i ffos y pibell gan greu difrod lleol a llygredd gwaddod i’r cwrs dŵr a SoDdGA i lawr yr afon.”
Clymblaid eang
Ychwanega Dan Yates: “Mae effaith gyson datblygiad ar ein hafonydd a’n nentydd dros yr ychydig ddegawdau diwethaf wedi golygu fod gan y DU un o’r systemau afonydd mwyaf diraddiedig yn y byd. Mae’n hanfodol bod y rhannau hynny o afonydd sy’n llifo’n rhydd ac sy’n eistedd o fewn ardaloedd gwarchodedig, fel y Cynfal, yn cael eu cadw ar gyfer y cenedlaethau a ddêl.”
Dywedodd Adrian Lloyd Jones, Pennaeth Tirweddau Byw, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru “O ystyried y swm bach o bŵer y byddai’r cynllun pŵer trydan dŵr arfaethedig hwn yn ei gynhyrchu a’r dirywiad yn y cymunedau bryoffyt a welwyd yn dilyn cynlluniau pŵer trydan dŵr tebyg mewn mannau eraill yng Ngogledd Cymru, mae’r cynllun hwn yn dod â llawer gormod o risc i fywyd gwyllt Cwm Cynfal. Er ein bod yn cefnogi ynni gwyrdd, rhaid i bob datblygiad fod yn y lle iawn, ac mae’r cynnig hwn yn amlwg yn y lle anghywir.”
Dywed Gemma Waters o fudad Buglife: “Mae nentydd cyflym heb eu haddasu, megis Afon Cynfal, yn un o’r cynefinoedd allweddol o fewn Ardal Infertebratau Pwysig Eryri – sy’n safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol ar gyfer cadwraeth infertebratau a’r cynefinoedd y maen nhw’n dibynnu arnyn nhw. Gall tynnu dwr ohonyn nhw newid maint y llif. Gall rhwystrau fel coredau, greu llawer o effeithiau andwyol ar gymunedau creaduriaid di-asgwrn-cefn yn y dwr ond nid yw’r cynllun wedi ystyried effeithiau ar infertebratau.”
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk