Mynd dan ddaear yn Eryri

Mae Cymdeithas Eryri wedi dilyn y project hwn o’r cychwyn cyntaf. Wedi ei gwblhau, bydd yn gweddnewid y tirlun, ac yn newid y ffordd yr ydym yn edrych ar y rhan arbennig hon o’r Parc Cenedlaethol. Mae cryn dipyn o waith i’w wneud rhwng rŵan a phryd hynny. Fel rhan o’r Grŵp Cyswllt Cymunedol ac yn ein gwaith ehangach byddwn yn helpu i wneud yn siŵr bod y project yn gwireddu cymaint o bethau positif â phosib ar gyfer yr ardal leol tra bod y gwaith ar y gweill. 

Nod prosiect Darpariaeth Effaith Weledol (VIP) y National Grid ym Mharc Cenedlaethol Eryri yw trawsnewid y golygfeydd ar draws Aber Afon Dwyryd rhwng Penrhyndeudraeth a Llandecwyn drwy dynnu’r llinell drydan uwchben bresennol a chladdu’r ceblau trydan mewn twnnel newydd o dan y ddaear.

Aber Afon Dwyryd ar ol tynnu’r peilonnau

Dechreuodd y gwaith paratoi ym mis Chwefror eleni i dynnu deg peilon ac oddeutu 3 chilomedr o linell drydan uwchben. Hyd yma, mae’r gwaith wedi canolbwyntio ar gynnal arolygon allweddol a pharatoi’r safle yn ogystal â dyluniad manwl, ond bydd y prosiect yn llawer mwy amlwg yn y gymuned o ddechrau’r flwyddyn nesaf ymlaen.

Bydd y peilonau sy’n croesi’r aber yn cael eu disodli gan geblau wedi’u claddu o dan y ddaear. Bydd y rhaglen beirianneg gymhleth hefyd yn cynnwys adeiladu twnnel i gadw’r ceblau trydan yn ddwfn o dan Aber Afon Dwyryd a dau dŷ pen twnnel newydd yn Garth a Llandecwyn.

Bydd dau ddigwyddiad galw heibio i roi gwybodaeth i’r cyhoedd yn cael eu cynnal ym mis Rhagfyr, lle gall pobl leol a busnesau gwrdd â thîm Hochtief UK a National Grid sy’n gweithio ar y prosiect a dysgu mwy am y rhaglen adeiladu. Dyma pryd y cynhelir y digwyddiadau:

  • Dydd Iau 8 Rhagfyr, 4pm-8pm: Neuadd Gymuned Talsarnau, LL47 6TA
  • Dydd Sadwrn 10 Rhagfyr 12pm-4pm: Y Neuadd Goffa, Penrhyndeudraeth, LL48 6LR

Mae National Grid wedi datblygu’r prosiect mawr hwn gyda mewnbwn ac arweiniad gan randdeiliaid a’r gymuned. Bu’r broses gynllunio yn un hir a bydd y prosiect nawr yn mynd rhagddo i adfywio’r dirwedd drawiadol hon.

Dewch draw i’r digwyddiadau a chwrdd â thîm y prosiect, a fydd yn gweithio yn y gymuned dros y blynyddoedd nesaf, gan ddod â llawer o fuddion i’r ardal leol.

I ddysgu mwy am y prosiect, ewch i’r wefan (nationalgrid.com/eryrivip)  sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am y prosiect, yr holl newyddion a digwyddiadau diweddaraf a’r camau nesaf.