Oni bai ein bod yn gweithredu’n gyflym bydd un o raeadrau mwyaf eiconig Eryri yn cael ei difrodi am byth

Eisoes mae dros 650 o bobl wedi ysgrifennu llythyrau o wrthwynebiad yn erbyn y cynllun pŵer trydan dŵr i adeiladu argae ar Afon Cynfal ger Llan Ffestiniog a dargyfeirio, ar adegau, bron i 70% o’r dŵr o amgylch rhaeadr eiconig Rhaeadr y Cwm. Dair gwaith dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf mae cynlluniau wedi eu cyflwyno ar gyfer cynllun trydan dŵr yng Nghwm Cynfal. Dair gwaith maen nhw naill ai wedi cael eu gwrthod neu eu tynnu’n ôl. Ond ym mis Gorffennaf fe wnaeth y datblygwyr gyflwyno cais ffurfiol arall.  Y dyddiad cau ar gyfer gwrthwynebiadau yw 20 Medi.

Ond rydyn ni’n pryderu bod y cynllunwyr eisoes wedi rhoi gwybod i’r datblygwyr bod y cynllun yn dderbyniol mewn egwyddor. Felly rydyn ni angen cyfleu’r neges i’r Pwyllgor Cynllunio bod pobl yn erfyn arnynt i ddilyn polisïau cynllunio Llywodraeth Cymru a’r Parc Cenedlaethol a diogelu gwarchodfeydd bywyd gwyllt dynodedig fel hwn rhag difrod.

Os nad ydych wedi anfon eich llythyr o wrthwynebiad eto, a fyddech yn barod i wneud hyn? Dim ond pum munud y mae’n ei gymryd os defnyddiwchchi’r botwm isod.

Ie, mi wnaf i helpu! Dwi eisiau codi fy llais yn erbyn y cynllun

Os ydych eisoes wedi anfon eich llythyr o wrthwynebiad a’ch bod yn byw yng Ngwynedd neu Gonwy, a fyddech yn fodlon anfon neges at eich Cynghorydd lleol, eich Aelod o’r Senedd a’ch AS i roi gwybod iddynt eich bod wedi gwrthwynebu’r cais niweidiol hwn?

Mae hyn yn bwysig gan mai Cynghorwyr lleol yw mwyafrif y Pwyllgor a fydd yn gwneud y penderfyniad. Ac mae’r Aelodau Seneddol lleol ar gyfer San Steffan a Chaerdydd yn bwysig gan fod y ddau ohonyn nhw, yn anffodus, wedi cefnogi’r cynllun.

Gallwch gysylltu â nhw drwy fynd at wefan Write to them. Unwaith y byddwch chi yno, teipiwch eich cod post a byddwch yn gweld enwau eich Cynghorydd Lleol, MS ac AS. Cliciwch ar bob enw a byddwch yn gallu ysgrifennu llythyr byr atynt.

Gallech ddweud rhywbeth fel:

“Annwyl

Cais Cynllunio Cyf: NP5/59/495C

Cynllun cynhyrchu trydan dŵr i gynhyrchu hyd at (600kW) yn Afon Cynfal, Ffestiniog

Rwy’n ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi fy mod yn bryderus iawn am y cynllun hwn, a fyddai’n bygwth un o’r rhaeadrau mwyaf eiconig yn Eryri a safle bywyd gwyllt sydd wedi’i warchod yn arbennig. Byddai’r cynllun yn cynhyrchu dim ond 600kW. Mae hynny’n ddigon i bweru dim ond 60 cawod pŵer trydan. Byddai angen 12 cynllun fel hyn i ddisodli un tyrbin gwynt modern. Rwyf wedi ysgrifennu at Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i wrthwynebu’r cynllun, ond rwy’n ysgrifennu atoch chi i’ch annog i ddefnyddio eich holl ddylanwad i wneud yn siŵr bod Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn dilyn ei bolisïau ei hun a rhai Llywodraeth Cymru, ac yn diogelu y rhaeadr fawreddog hon ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Gaf fi ofyn, a ydych yn fodlon gwneud hyn?”

Dim ond awgrym yw’r neges uchod. Byddai’n llawer gwell pe gallech ysgrifennu eich llythyr eich hun, efallai gan ddefnyddio rhywfaint o’r testun isod. Cofiwch gynnwys eich enw, cyfeiriad a chod post. Ewch at wefan Write to them

Darlun o’r rhaeadr gan David Cox
Lle sydd wedi ysbrydoli storïwyr, artistiaid a beirdd

Mae Cwm Cynfal yn lle sydd wedi ysbrydoli storïwyr, artistiaid a beirdd dros y mileniwm. Mae’n un o raeadrau mwyaf mawreddog Eryri. Ond nawr mae’n cael ei bygwth unwaith eto gan gynllun trydan dŵr a fyddai’n gweld argae ar yr afon a chymaint â 70% o’r dŵr sydd ar gael yn cael ei ddargyfeirio allan o’r rhaeadr.

Mae’r ceunant wedi’i warchod yn fawr dan ddeddfwriaeth bywyd gwyllt, sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o fewn Parc Cenedlaethol. Mae wedi’i ddynodi’n rhannol oherwydd y mwsoglau a llysiau’r afu prin sydd i’w cael yno. Os byddwch chi’n dargyfeirio cymaint â hynny o ddŵr allan o’r rhaeadr, bydd hynny’n newid yr amodau gwlyb iawn sy’n gwneud y ceunant mor arbennig.

Rydym yn pryderu am ymddangosiad gweledol, sain a thrawiadol y rhaeadr, y bywyd gwyllt sy’n byw yn y ceunant a hefyd y difrod i’r safle hanesyddol iawn hwn gyda’i lwybrau canoloesol.

Rydym yn cefnogi’n gryf yr angen i ddatgarboneiddio’r economi. Ond gydag unrhyw gynllun ynni adnewyddadwy, mae’n rhaid i chi bwyso a mesur y difrod yn erbyn y buddion. Cymharol ychydig o drydan fyddai’r cynllun hwn yn ei gynhyrchu, digon i bweru dim ond 60 o gawodydd pŵer. Byddai ei gapasiti o 600kW dim ond tua 8% o ddim ond un o’r tyrbinau 7.2MW yn fferm wynt arfaethedig Y Bryn rhwng Maesteg a Phort Talbot.

Gallwch chi helpu i amddiffyn y rhaeadr

Cynhaliodd y datblygwyr eu hunain ymgynghoriad cyn ymgeisio ddiwedd y llynedd. Mae’r ymateb i hynny, sydd wedi’i gynnwys fel rhan o’r cais cynllunio, yn cadarnhau nad yw’r mwyafrif helaeth o’r rhai a gymerodd ran yn cefnogi’r cynllun. Er ei bod yn anodd tynnu’r ffigurau o’r papur a gyflwynwyd i Awdurdod y Parc Cenedlaethol, cymerodd 359 o unigolion neu sefydliadau ran. Nododd 276 nad oeddent yn cefnogi’r cais. Roedd 181 o’r gwrthwynebwyr yn lleol i Barc Cenedlaethol Eryri, Gwynedd neu Ogledd Cymru. Dim ond 3 nododd eu bod yn cefnogi’r datblygiad.

Rory Francis
Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri

Ie, mi wnaf i helpu! Dwi eisiau codi fy llais yn erbyn y cynllun