Diolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd ein pumed penwythnos Mentro a Dathlu flynyddol! Daeth cyrff sy’n bartneriaid, noddwyr, gwirfoddolwyr a staff i gyd at ei gilydd i gwblhau amrywiaeth o orchwylion ymarferol i helpu i edrych ar ôl harddwch, rhywogaethau a chynefinoedd Parc Cenedlaethol Eryri.
• Cliriwyd erw o brysgwydd o gynefin gwlyptir gwerthfawr Cors Bodgynydd gyda Chymdeithas Byd Natur Gogledd Cymru
• Cliriwyd 6 milltir o ddraeniau llwybr a thrwsiwyd cloddiau cerrig sych yn amgylchedd mynyddig Cwm Idwal gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
• Taenwyd 60m o lwybr sglodion coed (o goed ynn a gwympwyd ar y safle), cliriwyd 1 erw o jac-y-neidiwr, a heuwyd miloedd o hadau blodau gwyllt ar safle Coed Cadnant Coed Cadw
• Cliriwyd 35kg o sbwriel, 3 teiar a chôn traffig o Lyn Padarn wrth gasglu sbwriel ar ganŵ gyda Chwaraeon Dŵr Eryri
• Cliriwyd 24kg o sbwriel o fannau poblogaidd y Parc Cenedlaethol wrth Lyn y Cŵn ac ar lwybr Watkin yr Wyddfa fel rhan o’r cynllun partneriaeth Caru Eryri
• Tynnwyd dros fil o blanhigion jac-y-neidiwr o lannau’r afon Ogwen gyda Chymdeithas Eryri
• Teithiau ar droed, ar ganŵ, ar e-feic ac ar fws trydan i lawer o safleoedd project y penwythnos, diolch i Chwaraeon Dŵr Eryri a Phartneriaeth Ogwen.
Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb eich penderfyniad a’ch parodrwydd i’n helpu i warchod Eryri. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth!
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk