

Penwythnos MaD 2024 – Nodwch y Dyddiad
Mae gennym newyddion cyffrous: Mae penwythnos MaD (Mentro a Dathlu) ar fin dychwelyd ar ddydd Gwener 30 Awst – dydd Sul 1 Medi.
Fel erioed, bydd y penwythnos yn llawn o gyfleoedd a gweithgareddau gwirfoddoli mewn partneriaeth â chymdeithasau, grwpiau cymunedol a busnesau lleol, ac fe’i cynhelir ym myncws Bwlch Mwlchan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger Beddgelert.
Mwy o fanylion i ddod yn fuan, yn cynnwys sut i archebu lle.
Byddem yn falch iawn o’ch gweld yno!
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk