Penwythnos Mentro a Dathlu 2024 – Cofrestru ar agor!

Penwythnos Mentro a Dathlu 2024 – Cofrestru ar agor!

Nant Gwynant, dydd Gwener 30 Awst – dydd Sul 1 Medi

Ymunwch â ni am benwythnos o weithgareddau cadwraeth, digwyddiadau, bwyd, cerddoriaeth fyw a llawer mwy!

Cynhelir penwythnos MaD eleni ym myncws yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Bwlch Mwlchan, wrth droed llwybr Watkin Yr Wyddfa ar lan Llyn Gwynant.

Mae croeso i chi ymuno â ni am y penwythnos cyfan, am y dydd neu mewn weithgareddau unigol.

Gweithgareddau yn cynnwys:

  • Helfa Sbwriel ar Ganŵ
  • Arolwg coed hynafol
  • Taith straeon
  • Arolwg ymlusgiaid ac amffibiaid
  • Cynnal a chadw llwybrau
  • Tynnu Rhododendron
  • Taith gerdded meddalgarwch
  • Taith codi sbwriel heriol
  • Taith codi sbwriel i deuluoedd
  • Gweithdy adnabod coed
  • Gweithdy creadigol ‘Cyanotypes’
  • Helfa drysor i’r teulu oll
  • Cerddoriaeth byw gan Tacla

Ca1: Arwyddwch ar gyfer pob gweithgaredd gwirfoddol am ddim yr hoffech ymuno ag ef drwy gyfrwng My Impact

Cam 2: Bwciwch llety, bwyd, a’ch gwahoddiad i’r barbaciw am ddim trwy Jotform

Cam 3: Mwynhewch y penwythnos!

E-bostiwch peri@snowdonia-society.org.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Byddem wrth ein bodd yn eich gweld yno!