Penwythnos Mentro a Dathlu 2024 – Llwyddiant!

 

Penwythnos Mentro a Dathlu 2024 – Llwyddiant!

Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd at lwyddiant Penwythnos Mentro a Dathlu 2024 diwedd yr haf! Daeth sefydliadau partner, noddwyr, gwirfoddolwyr a staff ynghyd i gyflawni amrywiaeth o dasgau ymarferol i helpu i ofalu am harddwch, rhywogaethau a chynefinoedd Parc Cenedlaethol Eryri.

Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb eich cefnogaeth a’ch parodrwydd i’n helpu i warchod Eryri, felly diolch yn fawr am eich holl gefnogaeth!

Llwyddiannau’r penwythnos:

  • Cyfrannodd 41 o bobl 400 awr o wirfoddoli a chyflawni gweithgareddau
  • Cliriwyd 13.3kg o sbwriel anodd-ei-gyrraedd o Lyn Padarn gyda chanŵ
  • Cwblhawyd gwaith cynnal a chadw ar 2.5km o lwybr Watkin, Yr Wyddfa, gyda thîm llwybrau yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • Cliriwyd Rhododendron o 15 erw o dir Coed Cadw
  • Casglwyd 23kg o sbwriel, gan gynnwys 27 het (!) o Gwm Hetiau, Yr Wyddfa, fel rhan o sesiwn casglu sbwriel eithafol Caru Eryri
  • Dysgodd 14 o bobl am goetiroedd hynafol gyda chymorth Coed Cadw yng Nghoed Hafod y Llyn
  • Cafodd 10 o bobl gyfle i weld ymlusgiaid ac amffibiaid yn agos ar safle Gwaith Powdwr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Ni fyddai’r un o’r uchod wedi bod yn bosibl heb eich agwedd bositif a’ch parodrwydd i helpu i warchod Eryri ac adfer byd natur.