Wrth i ni gyrraedd diwedd y tymor plannu coed, mae’n braf bwrw trem yn ôl ar yr hyn yr ydym wedi ei gyflawni.
Gydag wyth diwrnod o blannu coed a dau ddiwrnod o blannu gwrych y tymor hwn, rydym wedi llwyddo i blannu cyfanswm rhagorol o 4,376 o goed unigol! Plannwyd y rhain ar hyd a lled Eryri; o Gwm Anafon a Nantmor yn y gogledd, yr Ysgwrn yng nghanol y parc, i Lanuwchllyn yn y dwyrain, a Chwm Mynach i’r de orllewin.
Rydym yn hynod ddiolchgar i’r gwirfoddolwyr a’r grwpiau o fyfyrwyr sydd wedi gweithio i wireddu hyn drwy ddod i’r safleoedd efo ni ym mhob math o dywydd!
Yn ystod cyfanswm o 208 o oriau gwirfoddol, plannwyd gennym ystod o goed brodorol yn cynnwys helyg, gwern, drain gwynion, cyll, derw, afalau surion, criafol, bedw, rhosyn gwyllt a drain duon. Planhigfeydd conifferaidd yw llawer o orchudd coed y DU ac mae eu nodwyddau yn newid cydbwysedd pH y pridd fel mai ychydig o rywogaethau all dyfu oddi tanyn nhw. Mae’n hynod o bwysig ein bod yn plannu rhywogaethau brodorol oherwydd mae coed brodorol, collddail yn cynnal mwy o fioamrywiaeth yn ystod eu hoes na chonifferau. Mae rhai coed collddail, fel y dderwen, hefyd yn gallu byw am ganrifoedd, ac yn darparu cynefin tymor hir gwerthfawr ar gyfer llu o bryfed, adar a mamaliaid. Mae rhai o’r ardaloedd lle’r ydym wedi plannu y tymor yma yn weddillion coedlannau hynafol. Wrth blannu yma, rydym yn sicrhau bod y mannau hyn yn parhau o dan goed, gan gynnal eu categori a’r ecosystem bwysig sy’n cael ei chreu gan goedlannau hynafol.
Wrth gwrs, mae coed yn adfer yn naturiol, ond wrth eu plannu fel glasbrennau fe roir hwb ychwanegol iddyn nhw gan eu bod eisoes wedi goroesi cyfnodau cynnar anodd eu hoes. Felly, maen nhw’n fwy tebygol o oroesi o’u cymharu â’r niferoedd uchel nad ydyn nhw’n goroesi gydag adferiad naturiol.
Yn ystod ein dau ddiwrnod o blannu gwrych yn Llanuwchllyn, plannodd gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri a Gwirfoddolwyr Cadwraeth Prifysgol Aberystwyth 2,530 o lasbrennau a fydd yn datblygu’n wrychoedd brodorol-gymysg hardd. Wedi iddyn nhw gael amser i dyfu, rydym yn debygol o ddychwelyd i’r safleoedd hyn i’w gosod wrth ddefnyddio technegau plygu gwrych traddodiadol. Am fwy o wybodaeth am hyn, darllenwch ein erthygl dysgu am blygu gwrych. Mae gwrychoedd brodorol yn cynyddu cysylltedd cynefinoedd drwy ddarparu coridorau rhwng lleiniau o gynefin. Mae hyn yn cynyddu bioamrywiaeth o fewn Eryri wrth alluogi rhywogaethau i symud rhwng ardaloedd i gael mynediad at fwyd, ffynonellau dŵr, tiriogaeth newydd ac i ddod o hyd i gymar.
Gan fod y tymor plannu wedi dod i ben rydym am ganolbwyntio ar orchwylion eraill yn cynnwys cynnal a chadw llwybrau, casglu sbwriel, clirio rhywogaethau ymledol a helpu ar warchodfeydd natur.
Pam na wnewch chi dreulio ychydig funudau yn cofrestru i fod yn wirfoddolwr Cymdeithas Eryri fel eich bod yn gallu ymuno â ni ar ein dyddiau gwaith, arwyddo i dderbyn e-fwletinau, neu ymaelodi er mwyn cefnogi ein helusen yn ariannol?
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk