Cyd-ddigwyddiad, tybed? Y bore hwnnw pan ddaeth Alec Young at y drws yn ei siaced Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, roedd yn cynnig esgus da i beidio mynd i’r afael â’r golchi llestri. Wedi ei lusgo i mewn, ei osod yn ystafell fapiau Plas Coch i edmygu ein printiadau diweddaraf gan Jeremy Ashcroft ac wedi iddo gael panad a chacen gri o’i flaen, eglurodd Alec ei fod yn galw i sgwrsio â ni am broject Di-Blastig Yr Wyddfa. Cyd-ddigwyddiad oherwydd y diwrnod cynt roedd Fiona (Mrs Plas Coch) a minnau wedi penderfynu y byddem yn gallu cwtogi mwy fyth ar ein biliau gwastraff a lleihau ein heffaith amgylcheddol pe baem yn cael gwared â’r ddau olaf o’r nwyddau wedi eu lapio mewn plastig o’n darpariaethau ar gyfer gwesteion, cynyddu ein compostio gartref a chytuno i wisgo menig rwber (ailgylchadwy) a gwirio pob bin ein hunain ar ei ffordd i’r bin gwyrdd gyda’n datganiad ‘Gallwn, byddwn ac rydym yn ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio bron pob dim!’
Ein cenadwri!
Bedair blynedd yn ôl, (pan roeddem yn cael gair efo swyddog o’r banc oedd yn amlwg wedi ei synnu wrth i ni egluro ein bod yn ymddeol o’n swyddi parchus gyda chyflog da fe prifathrawon i gadw gwesty bychan mewn pentref iaith Gymraeg wrth droed Yr Wyddfa) roedd ein datganiad busnes wedi nodi y byddem yn cyfrannu i’r gymuned leol a chadwraeth natur yn Eryri – er nad oedd gennym fawr o syniad bryd hynny sut y byddem yn gwneud hynny! Y camau cyntaf oedd ymuno â Chymdeithas Eryri (fel Aelod Busnes) a Phentref Taclus Llanberis (fel gwirfoddolwr) ar y daith arbennig honno ac wedi treulio dyddiau wedyn mewn ffosydd yn gwisgo siacedi amlwg lliwgar – yn dibynnu a oeddem yn y mynyddoedd neu yn ein pentref ein hun – roeddem yn ymwybodol o effaith andwyol y poteli plastig un-defnydd – ar ochrau ffyrdd, ar lwybrau’r mynyddoedd, mewn ffosydd, mewn llynnoedd ac yn gorlifo o finiau a thryciau ailgylchu.
Gweledigaeth o leihau defnydd o blastig
Gwirfoddolwyr Caru Eryri yn codi sbwriel ar llwybr Llanberis, yr Wyddfa
Roeddem yn awyddus i siarad gydag Alec am y newidiadau yr oeddem wedi eu rhoi ar waith ym Mhlas Coch i wneud ein rhan. Agwedd arall o’n Datganiad Cenadwri oedd ein bod yn dymuno addysgu a darparu gwybodaeth i’n gwesteion ynglŷn â sut i fwynhau Eryri yn ddiogel, yn gyfrifol ac yn gynaliadwy. Roeddem am leihau ein defnydd o blastig yn y busnes a lleihau faint o blastig tafladwy y byddai pob un o’n gwesteion ym Mhlas Coch yn ei gludo i’r mynyddoedd. Heblaw am ddringwyr creigiau ac ymgeiswyr Arweinwyr Mynydd, mae bron pob un o’n gwesteion yn dymuno dringo, cerdded neu redeg i gopa’r Wyddfa felly roeddem wedi buddsoddi mewn poteli dŵr ail-ddefnydd i’w benthyg, defnydd lapio brechdanau o ddefnydd â chwyr gwenyn a bagiau papur ar gyfer teisennau cartref. Ynghyd â bagiau gwastraff bwyd i’w compostio, dyma ein llwybr i sgwrsio gyda’n gwesteion am effaith plastig, y ffaith mai’r unig bobl sy’n casglu sbwriel pobl eraill yw gwirfoddolwyr nad ydyn nhw’n cael eu talu a’r teimlad afiach o gerdded yn ôl i lawr y mynydd gyda sach gefn yn hanner llawn o grwyn banana heb bydru a gasglwyd o lwybr PyG ar eich diwrnod i ffwrdd.
Cymryd lle
Yn ein hystafelloedd roeddem eisoes wedi cyflwyno dewisiadau mwy cynaliadwy yn lle bisgedi a chapsiwlau mewn plastig a photeli bach. Roedd gwesteion wedi rhoi croeso llwyr i’n penderfyniad i gael gwared â chapsiwlau llaeth UHT a gosod llefrith ffres a jygiau porslen mewn oergell. Dengys ymchwil bod ymwelwyr â Chymru yn dymuno bwyta cynnyrch lleol ac roeddem wedi darganfod bod gwesteion yn awyddus i leihau eu defnydd eu hunain o blastigau un-defnydd tra ar eu gwyliau ac yn ceisio, ar y cyfan, ein cynorthwyo gydag ailgylchu – er bod eu dealltwriaeth o’r hyn y gellid ei ailgylchu’n amrywio’n fawr.
Cynnyrch plastig-dwys | Deunydd mwy cynaliadwy yn eu lle |
Deunydd golchi dwylo mewn potel blastig fechan dafladwy | Sebon wedi ei wneud yn lleol ym Meddgelert |
Poteli shampŵ a sebon cawod bach plastig | Cynnyrch ar gyfer ail-lenwi ac ail-ddefnyddio, o ffynonellau ethegol, a brynir fesul 5L |
Bisgedi wedi eu lapio mewn plastig | Teisennau cartref, hancesi papur ailgylchedig neu blatiau tsieni |
Brechdan ‘meal deal’ a brynnir yn lleol ar gyfer pecyn cinio | Brechdanau a theisennau cartref, ffrwythau ffres wedi eu lapio mewn papur gyda photel ddur Plas Coch (ar fenthyg) |
Selsig a chig moch wedi eu lapio’n barod mewn cynhwysydd plastig | Cynnyrch ffres wedi ei lapio mewn papur o siop gigydd lleol |
Capsiwlau llaeth UHT | Jygiau porslen i gludo llaeth ffres neu laeth ceirch neu soia i ystafell |
Bagiau te mewn plastig
|
Jar wydr o fagiau te llwyr fiodiraddadwy o ffynonellau lleol, diodydd perlysiau a ffrwythau. |
Fersiynau bychan o rawnfwyd, jamiau a marmalêd. | Jariau gwydr gyda granola cartref, a jamiau a marmalêd cartref. |
Ailgylchu
Mae’n amlwg bod gan ein gwesteion sy’n teithio o bob cwr o’r DU a weddill y byd lawer o brofiadau gwahanol o drefniadau ailgylchu awdurdodau lleol ac mae hyn yn llunio eu dealltwriaeth o beth allwn ni ei ailgylchu a’r hyn na allwn. Allwch chi ddim cael ‘rheolau’ am hyn mewn gwesty cyfoes, ond gallwch hwyluso gwneud y peth iawn. Drwy ddarparu biniau ailgylchu bach ym mhob ystafell a gosod biniau ailgylchu metel o dan porth y tŷ ar gyfer bwyd, croen ffrwythau, plastigau meddal ac ailgylchu cymysg rydym yn annog ein gwesteion i roi cynnig ar ddod â’u holl wastraff yn ôl efo nhw o’r mynydd. Hyd yn oed wedyn, mae rhywbeth boddhaol iawn am chwilota drwy fin gwastraff eithaf llawn a lleihau’r deunydd sy’n mynd i’r domen byd i rhyw eitem neu ddwy. Bellach rydym yn arbed £1,000 y flwyddyn ar gasgliadau gwastraff masnachol.
Ailddefnyddio
Am gyfnod roeddem wedi bod yn cydweithio gyda chyflenwyr a oedd yn fodlon darparu cynnyrch mewn cynwysyddion y gellid eu hailddefnyddio ac hefyd yn eu cymryd yn ôl a’u defnyddio eilwaith! Rydym yn defnyddio cynwysyddion madarch dros ben i dyfu eginblanhigion yn y tŷ gwydr a fydd yn y pen draw’n cael eu defnyddio fel blodau ar gyfer yr ystafell frecwast (mewn compost cartref, wrth gwrs). Rydym yn hysbysu cyflenwyr ein bod yn eu defnyddio oherwydd ein bod yn gallu ailddefnyddio eu deunydd pecynnu, ei gompostio neu eu ailgylchu os oes raid.
Y tu ôl i’r llenni
Mae profiad wedi ein helpu i reoli ein cyflenwadau o fwyd yn fwy effeithiol er mwyn lleihau ar raddfa fawr unrhyw wastraff bwyd. Wrth sefydlu ardal gompostio gartref gallwn waredu gweddillion coffi, bagiau da bioddiraddadwy, croen ffrwythau, bonion, tywelion papur golchi dwylo, bocsys wyau, plisgyn wyau a deunydd llysiau amrwd yn ddiogel. Y bonws ychwanegol yw bod hyn yn cyflenwi compost ar gyfer gardd organig i’n gwesteion lle mae ein hadar duon a’n bronfreithod preswyl wrth eu bodd yn chwilota ynddi! Mae hi’n anodd coelio, ond o fod yn darparu hyd at 70 brecwast wedi ei goginio a chyfandirol bob wythnos rydym yn gallu defnyddio bin casglu bwyd gwastraff ochr-ffordd yn unig hyd yn oed wrth beidio anfon bwyd i’r safle claddu sbwriel.
Mae’r cynnyrch glanhau cyfarwydd mwy cyfeillgar i’r amgylchedd yn gwneud mwy o synnwyr economaidd beth bynnag os byddwch yn ei brynu fesul 5L. Mae’r poteli mawr hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer dyfrio’r ardd felly o leiaf gellir eu hailddefnyddio sawl gwaith cyn ailgylchu.
Y camau nesaf – Llanberis di-blastig?
Roeddem yn falch o gymryd rhan yn Awdit Gwobrwyo Busnes Di-blastig Yr Wyddfa gydag Alec ac yn falch hefyd o fod y busnes cyntaf i ennill gradd ‘Copa’ ac yna i siarad yng Nghynhadledd Awdurdod y Parc yn ôl ym mis Ebrill.
Cangen arall o’n datganiad cenadwri yw cefnogi busnesau lleol, felly rydym yn annog gwesteion i ddefnyddio caffis, bwytai, mannau bwyd cymryd-i-ffwrdd a siopau lleol. Mae llawer o enghreifftiau gwych o siopau dringo a fydd yn tynnu’r holl ddeunydd pecynnu i’w roi’n ôl i DMM (cynhyrchydd cit dringo) cyn gynted ag y byddwch yn prynu darn newydd o offer a chynwysyddion y gellir eu compostio ar gyfer bwydydd.
Ar hyn o bryd mae ein Grŵp Datblygu Llanberis (corff a sefydlwyd i gynrychioli busnesau, grwpiau cymunedol a phreswylwyr) mewn trafodaethau gydag Alec a’n Cynghorydd lleol ynglŷn â sut allwn ni gefnogi ac annog pob busnes sy’n darparu gwasanaethau i ymwelwyr â’r Wyddfa i hefyd ymgymryd ag awdit Alec a chychwyn ar eu taith di-blastig eu hunain!
Rob Nicholson yw cyd-berchennog Gwesty Plas Coch gyda’i wraig Fiona. Mae Rob yn Arweinydd Mynydd, Gweithiwr Cefnogol Gofal Cymdeithasol a Gwirfoddolwr gyda Chymdeithas Eryri a Phentref Taclus Llanberis. Mae’n Ysgrifennydd a Thrysorydd Grŵp Datblygu Llanberis.
Dan Goodwin, Uwch Swyddog Cadwraeth Cymdeithas Eryri a Rob Nicholson yn casglu ysbwriel ar Yr Wyddfa
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk