Cafwyd llawer o hwyl wrth weithio gydag ysgolion yn Nyffryn Conwy yn ddiweddar i glirio jac-y-neidiwr ymledol. Gyda’i gilydd, bu disgyblion Ysgol Llangelynnin yn Henryd, Ysgol Dyffryn yr Enfys yn Nolgarrog ac Ysgol Bro Gwydir yn Llanrwst yn tynnu, torri a sathru rhai miloedd o blanhigion efo Cai, Dan a Mary, staff Cymdeithas Eryri.
Fe all pob planhigyn jac-y-neidiwr gynhyrchu hyd at wyth cant o hadau, felly dychmygwch faint o blanhigion newydd y llwyddwyd i’w rhwystro rhag egino y flwyddyn nesaf! Roedd yn braf gweld awydd dysgu a brwdfrydedd y plant yn ogystal â’u medrau artistig: cynhaliwyd cystadleuaeth i dynnu llun y planhigyn ar boster ‘Wanted’ yn null ‘Western’. Enillodd amryw o’r plant wobr o gêm gardiau ‘top trumps’ rhywogaethau ymledol a derbyniodd yr enillydd drwyddo draw garthen mewn bag. Diolch i broject WaREN Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru am roddi’r gemau cardiau.
Disgybl o Ysgol Llangelynnin yn tynnu jac y neidiwr
Mae jac-y-neidiwr yn tyfu’n flynyddol o had ac yn marw’n y gaeaf, ond erbyn hynny mae pob planhigyn wedi cynhyrchu rhai cannoedd o hadau sy’n ffrwydro o’r codau wedi iddyn nhw aeddfedu. Mae’n lledaenu’n gyflym iawn ar lannau nentydd ac afonydd ac ar dir gwlyb, ac mae’n bosibl nad oes yr un planhigion mewn ardal ond yna llawer iawn mewn dim ond blwyddyn neu ddwy. Mae’n cysgodi planhigion eraill gan ei fod yn tyfu mor gyflym ac mae peillwyr (gwenyn, pryfed, ayyb) yn heidio i’w flodau, tra bod blodau eraill yn cael eu hesgeuluso. Ar lannau afonydd, mae’n peri i’r pridd erydu i’r dŵr gan ei fod wedi lladd planhigion llai, oherwydd pan mae’r jac-y-neidiwr yn marw yn y gaeaf ychydig iawn o wreiddiau sy’n dal y pridd at ei gilydd.
Disgyblion yn dysgu am bwysigrwydd bioddiogelwch
Dros ychydig o flynyddoedd, fel rhan o Bartneriaeth Tirlun y Carneddau, rydym wedi bod yn helpu i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol a sydyn o ledaeniad jac-y-neidiwr o fewn ardal y Carneddau ac mewn aneddiadau o amgylch cwr y Carneddau. Rydym wedi dysgu lle mae’n tyfu wrth i bobl adael i ni wybod ym mhle y gwelwyd y planhigyn, hefyd drwy gyfrwng gwaith Amy Greenland, Parc Cenedlaethol Eryri, sydd wedi arolygu’r Carneddau a mapio’r planhigyn. Mae mwy a mwy o bobl yn nodi ar yr app neu wefan dwyieithog Mapiwr INNS (sy’n bwydo data i Cofnod] eu bod wedi ei weld. Rydym wedi dod a gwirfoddolwyr i’w glirio o safle benodol y tu allan i Fethesda ac o ychydig o safleoedd yn Nyffryn Conwy, rydym wedi cynnal gweithdai hyfforddiant achrededig i ddysgu pobl sut i fynd i’r afael ag o ac rydym wedi cefnogi cymunedau lleol i ffurfio grwpiau sydd wedi ymrwymo i’w glirio yn eu hardaloedd hwy.
Hyfforddiant achrededig diweddar
Mae angen cryn dipyn o amser ac ymdrech i lwyddo i glirio lleiniau o jac-y-neidiwr, er bod pob planhigyn yn hawdd i’w dynnu o’i le. Mae gweithio’n strategol yn allweddol i sicrhau llwyddiant – cydweithio i benderfynu ar y man gorau i ganolbwyntio ymdrechion nes bod ardal wedi ei chlirio cyn symud i’r ardal nesaf, tra’n parhau i ailymweld ag ardaloedd wedi eu clirio eisoes er mwyn cadw llygad am unrhyw ail-dyfiant. Mae wedi bod yn dda dod â’r sawl sy’n fodlon mynd i’r afael â jac-y-neidiwr ynghyd ac mae’n wych gweld grwpiau lleol newydd yn cael eu sefydlu yn Nyffryn Conwy. Mae llwyddiant y grŵp yn Nhal-y-bont wedi annog llawer, wedi iddyn nhw fwy neu lai glirio jac-y-neidiwr o ardal drwy fynd yn rheolaidd i’w dynnu yn ystod dau haf.
Os ydych yn awyddus i gael hwyl yn tynnu’r jac-y-neidiwr, cofiwch gysylltu efo ni i ddysgu beth sy’n digwydd yn eich ardal. Dewch draw am ddiwrnod o hwyl ar 20 Awst i helpu i dynnu jac-y-neidiwr efo ni. Gweithdy hyfforddiant achrededig am ddim ydy’r digwyddiad, sy’n golygu y gallwch gael tystysgrif (gyda chredydau sy’n cael eu cydnabod gan brifysgolion).
Os hoffech gael y tystysgrif ai peidio, cofiwch roi hwb i’n niferoedd fel ein bod yn gallu tynnu mwy fyth o jac-y-neidiwr!
Linc i fwy o wybodaeth am jac-y-neidiwr ar ein gwefan.
Diolch i Lowri Hedd Vaughan Hwylusydd Cymunedol GwyrddNi dros Ddyffryn Peris am y teitl!
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk