Rydym yn falch iawn o dderbyn gwobr o £20,000 oddi wrth Postcode Community Trust, elusen sy’n rhannu grantiau a ariennir yn gyfan gwbl gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Pobl. Roedd Postcode Community Trust yn ariannwr hynod o gefnogol a hyblyg ledled y pandemig ac rydym yn ddiolchgar ac yn hynod falch o gael cydweithio efo nhw eto.
Aiff yr arian hwn tuag at gefnogi ein gwaith cadwraeth ymarferol a helpu pobl i ddarganfod ac ymwneud â thirluniau a bywyd gwyllt arbennig Eryri. Bydd llwybrau’n cael eu trwsio, rhywogaethau ymledol yn cael eu clirio a chynefinoedd yn cael eu rheoli’n well dros fywyd gwyllt. Byddwn hefyd yn buddsoddi yn ein gwirfoddolwyr drwy ddarparu cyfleoedd hyfforddi cyffrous! Cysylltwch am fwy o wybodaeth ar sut i gymryd rhan a rhoi rhywbeth yn ôl i Eryri.
Gyda diolch i:
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk