Cynhaliwyd ras fynydd Gladstone 9 yn Nwygyfylchi y mis diwethaf o dan reolau newydd sy’n cydymffurfio â Covid, gan godi £200 i gefnogi’r gwaith o warchod Parc Cenedlaethol Eryri.
Cynhaliwyd y ras fynydd leol fechan yng nghornel ogledd ddwyreiniol y Carneddau, a dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath i’w gynnal yn dilyn codi cyfyngiadau’r clo mawr yn gynharach yn yr haf. Meddai Ellie Salisbury:
“Wedi’r holl waith a’r newidiadau angenrheidiol roedd yn wych gweld pawb yn gwenu a chafwyd adborth positif dros ben gan bawb, gyda’r holl redwyr yn falch iawn o gael rasio unwaith eto ond, yn bwysicach fyth, yn teimlo’n ddiogel wrth wneud hynny.”
Mae’r trefnwyr Ellie ac Adrian wedi cyfrannu’r arian a gasglwyd yn eu rasys lleol bob blwyddyn o 2020 ymlaen. Meddai Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, John Harold:
“Mae Cymdeithas Eryri unwaith eto yn hynod o ddiolchgar i Ellie ac Adrian am eu gwaith diflino i gefnogi ein gwaith. Mae eu hymdrechion codi arian yn ddi-ben-draw – hyd yn oed yn ystod pandemig byd-eang. Gallwn barhau i wneud ein gwaith, diolch i ymdrechion ar y cyd ein haelodau a’n cefnogwyr.”
Cysylltwch os oes gennych syniad am godi arian neu os hoffech ymuno â ni i helpu i warchod Eryri.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk