Mae’r wythnos hon yn garreg filltir i Gymdeithas Eryri, oherwydd fe wnaethom ni gyflawni targed ein ‘Cronfa Ddyfodol 50 Mlynedd’ o godi £50,000, a hyd yn oed rhagori ar hynny, ar ôl i’r holl gyfraniadau gael eu cyfrif.
Codwyd cyfanswm o £50,627, sy’n cynnwys cyfanswm o 315 o gyfraniadau. Cafwyd £26,650 anhygoel gan unigolion; pan ychwanegir Rhodd Cymorth, mae’r cyfanswm yn fwy na £30,000. Cafwyd cyfraniadau hael hefyd gan fusnesau a digwyddiadau lleol, yn cynnwys:
Dywedodd John Harold y Cyfarwyddwr: “Rydym ni wrth ein bodd ein bod ni wedi cyflawni ein targed o godi £50,000 ar gyfer Cronfa’r Dyfodol. Mae hyn yn rhyfeddol: mae’n dangos faint mae pobl yn gwerthfawrogi’r gwaith rydym yn ei wneud i warchod a gwella Eryri, ac yna anad dim, mae’n dangos pa mor bwysig yw dyfodol ein Parc Cenedlaethol anhygoel i bobl.”
Hoffai Cymdeithas Eryri ddiolch o galon i’r holl unigolion, busnesau a sefydliadau a gyfrannodd tuag at Cronfa’r Dyfodol i ddathlu ein hanner canmlwyddiant.
I ddarllen rhagor am Gronfa’r Dyfodol, cliciwch yma.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk