Rydych wedi gwneud ddwywaith y gwahaniaeth!

Hoffem ddweud DIOLCH YN FAWR i bawb â’n cefnogodd ledled yr ymgyrch Cronfa Werdd Cyfatebol yr wythnos ddiwethaf!

Gyda’ch gilydd rydych wedi llwyddo i fynd y tu hwnt i’n targed o £5,000 drwy godi cymaint â £5,352 a £695.25 mewn rhodd cymorth, i gefnogi’r gwaith parhaol a wnawn i warchod a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri.

Gyda’r arian a gasglwyd byddwn yn hyfforddi, cyflenwi offer, ac arwain mwy o dimau o wirfoddolwyr ledled Eryri. Rydym yn ymdrechu i gynnig hyfforddiant achrededig i helpu pobl i ddilyn gyrfa yn y sector amgylcheddol, yn ogystal â hyfforddi mwy o arweinwyr a gwirfoddolwyr wrth ddefnyddio ein cyrsiau Cynnal Llwybrau a rhywogaethau ymledol achrededig.

Diolch i chi unwaith eto am eich haelioni a’ch cefnogaeth barhaol.