Oriau: Llawn amser 37.5 awr yr wythnos (i’w drafod), tymor penodol hyd diwedd Hydref 2024

Graddfa tâl:  £10.90 yr awr yn codi i £12 yr awr ym mis Ebrill 2024

Lleoliad: Hybrid: Gweithio ledled Eryri gyda rhywfaint o weithio o adref

Dyddiad cau’r cais: 09:00, dydd Llun 8 Ionawr 2024

Dyddiad cyfweliad: Dydd Mawrth 16 Ionawr 2024

Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosib ym mis Chwefror 2024

 

Disgrifiad swydd:

Os ydych yn dymuno helpu i warchod yr amgylchedd, efallai mai dyma’r swydd i chi.

Byddwch yn magu ystod eang o brofiad a fydd, yn ei dro, yn eich helpu i sicrhau cynnydd yn y sector amgylcheddol.

Byddwch yn:

  • datblygu medrau cadwraeth awyr agored ymarferol
  • cydweithio gydag ystod o gyrff sy’n bartneriaid
  • cynllunio ac yn arwain dyddiau gwaith i wirfoddolwyr
  • cyfrannu at brojectau sy’n gwarchod ac yn gwella Eryri
  • cwblhau hyfforddiant achrededig
  • cynrychioli’r Gymdeithas mewn digwyddiadau fel ffeiriau a sioeau o dro i dro
  • helpu gyda meysydd eraill o waith, gweithgareddau a digwyddiadau Cymdeithas Eryri

 

Hanfodol

  • Trwydded yrru lawn a chymwys a mynediad i gerbyd, wedi ei yswirio i chi ei ddefnyddio ar gyfer eich gwaith.
  • Rydym yn chwilio am siaradwr Cymraeg ar gyfer y swydd hon sy’n ymwneud â’r cyhoedd.
  • Diddordeb byw mewn cadwraeth/yr amgylchedd/Eryri
  • Yn gallu ysgogi eich hun, yn ymrwymedig, yn drefnus ac yn ddibynnol
  • Yn gyfathrebwr da
  • Mae angen hyblygrwydd oherwydd cynhelir digwyddiadau ar benwythnosau yn ogystal â dyddiau’r wythnos, ac efallai y bydd angen rhywfaint o waith gyda’r nos. Fodd bynnag, mae’r hyblygrwydd hwn yn cael ei gydnabod, a chyn belled â bod anghenion y Gymdeithas yn cael eu hateb, byddwn yn eich cefnogi i gynllunio eich gwaith o amgylch ymrwymiadau eraill.

Buddion gweithio i Gymdeithas Eryri – rydym yn cynnig:

  • Tâl cychwynnol Gwir Gyflog Byw
  • Cyfraniad cyflogwr o 6% tuag at bensiwn
  • Rydym yn gweithredu gweithio’n hyblyg a diwylliant o ymddiriedaeth.
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc (pro rata)
  • Termau wedi eu llunio ar gyfer cyfnod mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu a rhanedig rhwng rhieni, yn unol â hyd gwasanaeth cymwys.
  • Rydym yn annog ac yn cefnogi pawb sy’n gyflogedig i chwilio am gyfleoedd ar gyfer datblygiad.

 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Rory Francis ar director@snowdonia-society.org.uk.

Sylwer na allwn dderbyn ceisiadau os nad ydyn nhw wedi eu cwblhau wrth ddefnyddio ein Ffurflen Gais Safonol.

Ariennir y swyddi hyn gan Lywodraeth y DU drwy gyfrwng y Gronfa Rhannu Cyfoeth, a weinyddir gan Gyngor Gwynedd.