Rydym yn recriwtio Prif Swyddog Cadwraeth

Disgrifiad Swydd: Prif Swyddog Cadwraeth  


Oriau
37.5 awr/wythnos (i’w drafod), parhaol. Mae angen rhywfaint o weithio ar y penwythnos.

Tâl cychwynnol£25,942 pro rata  

Lleoliad: Hybrid: Gweithio ledled Eryri, gyda rhywfaint o weithio o adref ag or swyddfa
Yn adrodd i: Rheolwr Rhaglen

Yn adrodd yn uniongyrchol: Hyfforddedigion y Gymdeithas

Dyddiad cau’r cais:09:00 Dydd Llun 19 Awst 2024

Dyddiad y cyfweliadDydd Mercher 28 Awst 2024

Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosib a dim hwyrach na mis Hydref 2024 

Cefndir Cymdeithas Eryri: 

Mae Eryri yn ardal arbennig sy’n cynnal cynefinoedd a bywyd gwyllt sy’n bwysig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. O ganlyniad i newid hinsawdd a’r argyfwng i fyd natur yn fyd-eang mae mwy o angen gwarchod Eryri nag erioed o’r blaen. Dyma ein nod – ni ydy’r elusen sy’n gweithio i warchod a chynnal Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ein tîm ymroddedig o staff, ymddiriedolwyr, aelodau a gwirfoddolwyr yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod Eryri a’i chynefinoedd a’i bywyd gwyllt yn mynd i fod yma am byth. 

Mae ein gwaith cadwraeth ymarferol yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae arnom angen rhywun i ymuno â’n tîm i arwain a chydlynu ein rhaglen amrywiol yn y dyfodol. Rydym yn cydweithio ag ystod eang o bartneriaid ar orchwylion megis plannu coed, rheoli rhywogaethau ymledol a rheoli cynefinoedd i enwi ond ychydig. Rydym hefyd yn cydweithio mewn partneriaeth agos gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Bartneriaeth Awyr Agored ar ein rhaglen arloesol i wirfoddolwyr, Caru Eryri. 

Mae arnom angen aelod newydd o’r tîm. Ydych chi’n unigolyn trefnus, brwdfrydig a gwybodus gyda phrofiad o arolygu tîm a chydlynu ac arwain gwaith cadwraeth ymarferol? Os felly, yna efallai mai dyma’r swydd i chi. 

Buddion o ganlyniad i weithio i ni:  

  • Rydym yn gyflogwr gwir gyflog byw 
  • Cyfraniad cyflogwr o 6% tuag at bensiwn 
  • Gwaith sy’n gytbwys â bywyd ac sy’n hyblyg ac ystwyth gyda diwylliant o ymddiriedaeth    
  • Cyfleoedd ar gyfer gweithio o gartref/o bell 
  • Cefnogi buddiant staff gydag aelodaeth a rhaglen gefnogaeth bersonol 360 wellbeing i holl aelodau o staff 
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc (pro rata), yn codi wedi 5 mlynedd o wasanaeth 
  • Termau rhagorol ar gyfer mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu ac egwyl rhieni wedi ei rannu, yn unol â hyd gwasanaeth cymwys. 
  • Termau rhagorol ar gyfer tâl salwch (wedi i gyfnod prawf ddod i ben) 
  • Rydym yn annog ac yn cefnogi pob aelod o staff i archwilio cyfleoedd datblygu   

 

Gwaith cadwraeth ymarferol a hyfforddi gyda gwirfoddolwyr: 

  1. Arwain ar ddarparu rhaglen wirfoddoli ymarferol y Gymdeithas, yn cynnwys gwireddu allbynnau allweddol sy’n angenrheidiol i ateb ariannu grantiau allanol. 
  2. Trefnu ac arwain dyddiau gwaith gwirfoddolwyr, yn cynnwys cydlynu staffio/arweinwyr, asesiadau risg, recriwtio gwirfoddolwyr, trefniadau ymarferol, cyhoeddusrwydd cyfleoedd a gwaith a gwblheir, cofnodi gweithgaredd gwirfoddolwyr ac adrodd ar y gwaith a gyflawnir.   
  3. Arwain ar Iechyd a Diogelwch ar gyfer y rhaglen wirfoddoli ac, wedi hyfforddiant priodol, ar gyfer holl weithgareddau’r Gymdeithas; bod yn ymwybodol o arweiniad perthnasol, deddfwriaeth ac ymarfer gorau; cydlynu protocol Iechyd a Diogelwch (yn cynnwys Covid), cofnodi ac asesiadau risg. 
  4. Gweithio i sicrhau bod holl brotocol gwarchod yn cael ei ddilyn. 
  5. Hyfforddiant achrededig o fewn y Gymdeithas: wedi hyfforddiant digonol, byddwch yn cyfrannu i ddatblygiad unedau ac adnoddau newydd, yn trefnu ac yn arwain sesiynau hyfforddiant, rhoi asesiadau ar waith.  
  6. Partneriaethau ymarferol: gweithio gyda’r Rheolwr Rhaglen a Chyfarwyddwr, datblygu rhaglenni gwaith tymor hir; adnabod a blaenoriaethu cyfleoedd gwaith ymarferol gyda phartneriaid, sicrhau cyfathrebu da, casglu adborth a rhoi gwelliant parhaol ar waith.   
  7. Gweithio i gynyddu amrywiaeth ymysg y gwirfoddolwyr a gwella ansawdd profiadau gwirfoddolwyr. 
  8. Cyfrannu i’r gwaith ymarferol yn Nhŷ Hyll. 

Rheoli, arolygu a datblygu staff: 

9. Gweithredu fel Rheolwr Llinell hyfforddedigion y Gymdeithas (mae dau ar hyn o bryd). Eu cefnogi, sicrhau bod ganddyn nhw’r hyn sydd ei angen arnyn nhw i ddatblygu a gwireddu eu gwaith yn effeithiol a’u bod yn perfformio eu dyletswyddau yn foddhaol.  

10. Cefnogi datblygiad staff cadwraeth, hyfforddedigion a’r rhai ar osodiadau profiad gwaith.   

Cyfrifoldebau eraill: 

11. Mewnbwn i fonitro a gwerthuso gwaith y Gymdeithas a, gyda staff eraill, datblygu dulliau effeithiol o adrodd ar effaith. 

12. Cynrychioli’r Gymdeithas mewn digwyddiadau a gyda grwpiau, mewn partneriaethau ac yn y cyfryngau i ddatblygu cefnogaeth ar gyfer ein gwaith. 

13.Cynorthwyo mewn meysydd eraill o waith y Gymdeithas fel bo angen  

Manylion y person: 

Hanfodol 

  • Profiad o gynllunio, gweinyddu ac arwain gwaith cadwraeth ymarferol gyda gwirfoddolwyr
  • Profiad o oruchwylio / arwain tîm
  • Gwybodaeth ymarferol ac angerdd am Eryri a chadwraeth.
  • Y gallu i fod yn hunan-ysgogol, trefnus a datrys problemau mewn sefyllfa waith ddeinamig
  • Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg
  • Gallu defnyddio Word, Excel a Powerpoint, i ddiweddaru gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol.
  • Gall y rôl hon gynnwys gweithio gyda phobl ifanc o dan 18 oed ac oedolion y gellir eu hystyried yn agored i niwed neu mewn perygl. Bydd ar yr ymgeisydd llwyddiannus angen gwiriad DBS manylach boddhaol (a welir trwy danysgrifiad i’r Gwasanaeth Diweddaru neu drwy gais yn dilyn eich penodiad).
  • Trwydded yrru gyfredol, a defnydd o gerbyd gydag yswiriant defnydd busnes – mae gwaith yn digwydd ar draws Eryri a bydd angen cludo offer llaw i’r safleoedd gwaith. Mae milltiroedd allan o’r swyddfa yn cael eu had-dalu.

 Dymunol: 

  • Profiad o gyflwyno dysgu neu hyfforddiant achrededig
  • Profiad o godi arian a recriwtio aelodau mewn sefydliad nid-er-elw
  • Profiad o weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill

 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch os gwelwch yn dda â Rory Francis director@snowdonia-society.org.uk. 

Dylid anfon pob cais i info@snowdonia-society.org.uk erbyn 9 y bore ar ddydd Llun 19 Awst. 

Sylwer mai dim ond ceisiadau wedi eu cwblhau wrth ddefnyddio ein Ffurflen Gais Safonol allwn ni eu derbyn.  

Rhan-ariennir y swydd hon gan Lywodraeth y DU, gyda chronfeydd a weinyddir gan Gyngor Gwynedd.