Stori Lochlann

Ar ôl penderfynu gweithio tuag at yrfa mewn cadwraeth fy nymuniad oedd dechrau ennill profiad a dysgu sut allwn wneud fy mywoliaeth yn y maes. Felly, wedi ymchwilio i gyfleoedd cadwraeth da a gyda’r gallu i symud i unrhyw ran o’r DU, symudais yr haf yma i Landudno. Er ei bod yn ardal nad oeddwn wedi ymweld â hi o’r blaen, gyda dim ond ychydig o ymchwil, dysgais ei bod yn lle ardderchog am gyfleoedd cadwraeth.

O fewn ychydig o ddyddiau i symud yma, clywais am Gymdeithas Eryri, a dyna ddarganfyddiad ffodus i mi. Dydw i erioed wedi gwirfoddoli i elusen sy’n ymgymryd ag ystod mor eang o orchwylion mewn ystod mor eang o amgylcheddau. O drwsio llwybrau mynydd i hel sbwriel ar draethau i feithrinfeydd coed, rydw i wedi cael amser gwych efo nhw, ac mae wedi rhoi heb enfawr i fy hyder yn y diwydiant cadwraeth, a fy ngwybodaeth amdano.

Gan ddod yn hollbwysig i mi yn fuan iawn, roeddwn yn cael fy nenu’n ôl i’r cynhesrwydd a’r cyfeillgarwch amlwg ym mhob digwyddiad. Mae rhywbeth arbennig iawn am fod yn rhan o grŵp sy’n cludo offer a rhawiau i fyny mynydd fel criw’r nafis yn oes Fictoria oedd yn gweithio ar y rheilffyrdd, a threulio amser cinio’n edrych ar y golygfeydd rhyfeddol, cyn anelu’n ôl am Landudno i weithio gyda’r nos.

Wedi dim ond fy niwrnod cyntaf, a minnau heb gar, cefais gymorth i ddod o hyd i gludiant a lifft i bob digwyddiad yr arwyddais i gymryd rhan ynddo; roedd hyn yn golygu ei bod yn bosib i mi gymryd rhan mewn llawer iawn mwy o ddigwyddiadau. Mae tirlun Eryri yn faes chwarae hardd a deniadol sy’n gwahodd pawb sy’n dod i’w weld, ond dydy o ddim yn gyfaill i’r rhwydwaith bysus.

Heb gymorth Mary a Jen i ddod o hyd i gludiant, a rhoi lifft i mi eu hunain ambell dro, ni fyddwn wedi gallu mynychu sawl digwyddiad.

Wrth gynnig cyrsiau achrededig am ddim a fy helpu i gyrraedd pob digwyddiad, mae eu haelioni o ran amser ac ysbrydoliaeth yn helpu i greu’r genhedlaeth nesaf o gadwraethwyr ac mae wedi fy helpu wrth roi gwell syniad i mi o ba sectorau yr hoffwn weithio ynddyn nhw a lle mae angen i mi lenwi’r bylchau yn fy ngwybodaeth.

Os byddaf yn llwyddo i gael gwaith yn y sector, ac mi rydw i’n fawr obeithio y gallaf, byddaf yn edrych yn ôl ar Gymdeithas Eryri fel y cam cyntaf a phwysicaf i mi. Diolch i chi i gyd am yr atgofion arbennig.

Lochlann Cairns (gwirfoddolwr)