Walio Cerrig Sychion yn Gwarchodfa Natur Pensychnant

Cloddiau cerrig sych a therfynau caeau yw prif rwystrau da byw yn Eryri gan fod cerrig mor niferus. Dylem fod yn falch o’n llu o godwyr cloddiau medrus! Ydych chi wedi ystyried y medrau, yr ymdrech a’r amser sydd eu hangen i godi’r cloddiau sy’n dringo llethrau mor serth?

Mae amrywiaeth fawr o arddulliau wedi datblygu o ganlyniad i’r mathau gwahanol o gerrig sydd ar gael. Mewn cymoedd, fe welwch gloddiau o gerrig crynion, wedi eu codi o welyau nentydd a’u llunio’n ffurfiau llyfn gan ddŵr rhedegog. Ger chwareli llechi, mae cerrig yn tueddu i fod yn wastad gydag wynebau llyfn, gan mai dyma fel mae llechi’n hollti. Defnyddir cerrig cwarts ar ben llawer o gloddiau o gwmpas tai; credir bod rhain yn cael gwared ag ysbrydion drwg yn ogystal ag edrych yn dlws.

Yn ogystal â bod yn bwysig yn ymarferol, mae’r cerrig mewn cloddiau yn cynnal eu hecosystemau bywyd gwyllt eu hunain, gyda phlanhigion fel amrywiol redyn, duegredynen, deilen gron a thrwyn-y-llo dail eiddew yn tyfu ar y clawdd ei hun, gyda bysedd y cŵn, y goesgoch, garlleg y berth, llyriad, dant-y-llew a charn yr ebol yn aml yn tyfu wrth eu bôn. Ambell dro maen nhw bron wedi eu gorchuddio’n llwyr gan fwsoglau, yn enwedig yn ein hardaloedd o goedwigoedd glaw Celtaidd, neu wedi eu gorchuddio â chennau.

Mae Tŷ Hyll, Capel Curig, yn nodedig gan na ddefnyddiwyd morter i’w adeiladu. Gallwch weld yr hen fwsogl rhwng cerrig y muriau a’r simne hyd heddiw; fe’i gosodwyd yno i atal unrhyw ddrafftiau.

Ym mis Chwefror, cynhaliodd Cymdeithas Eryri weithdy codi cloddiau sych dros ddau ddiwrnod yng ngwarchodfa natur Pensychnant, ger Conwy. Rydym yn ddiolchgar i Julian Thompson, warden Pensychnant, am ein dysgu mor amyneddgar. Roedd yn rhyfeddol clywed bod y clawdd yr oeddem yn ei drwsio wedi ei godi, mae’n debyg, dros bum cant o flynyddoedd yn ôl!

Cafwyd diwrnod llawn hwyl, a chafwyd cyfle i ddysgu a rhoi cynnig ar fedr traddodiadol sydd wedi llunio ein tirluniau dros genedlaethau, wrth drwsio adran 5 metr o hyd o’r clawdd cerrig sych. Bwriad rhai mynychwyr oedd defnyddio’r medrau a ddysgwyd i drwsio eu cloddiau eu hunain felly mae’n wych gwybod y bydd y medrau a ddysgwyd ganddyn nhw’n cael eu defnyddio’n ymarferol wedi’r cwrs.

Meddai Julian:

Hoffwn ddiolch i bawb yng Nghymdeithas Eryri, a’r holl wirfoddolwyr, am eu gwaith dygn yn codi’r cloddiau. Rydw i erbyn hyn wedi gorffen gosod y cerrig clo ar frig y clawdd ac mae’n glawdd ardderchog ac yn gymorth mawr i ymdrechion Pensychnant i reoli ei ddiadell a’i dir. Go dda, chi!

Diolch, Julian, am ddau ddiwrnod gwych!

Swyddog Cadwraeth, Mary Williams

Gyda diolch i Raglen Cronfa Grant Cymunedol y Grid Cenedlaethol.