Y diweddaraf ar jac-y-neidiwr 2022

Yn y blynyddoedd diwethaf mae jac-y-neidiwr wedi gwreiddio ei hun yn ddwfn yn nhirlun Eryri. Mae hi’n anodd ei fethu gan fod y planhigion yn tyfu hyd at 2.5m o daldra ac yn cynhyrchu clystyrau o flodau pinc llachar. Mae nentydd ac afonydd yn gynefin delfrydol i’r jac-y-neidiwr ac mae’r planhigyn yn gallu lledaenu’n gyflym o amgylch y Parc, lle mae’n sefydlu dros leiniau enfawr ac yn ehangu drwy goedlannau a gwelltir llaith.

Efallai bod rhai ohonoch yn gofyn beth sy’n peri pryder am y planhigyn hwn. Wedi’r cwbl, mae’n darparu cyfoeth o liw ac yn aml gwelir peillwyr lu yn bwydo arno rhwng canol a diwedd yr haf. Fodd bynnag, yn anffodus, mae’r rhywogaeth yn peri bygythiad sylweddol i fioamrywiaeth a phridd y Parc. Mae’r planhigyn yn niweidiol oherwydd, yn gyntaf, ei allu i gystadlu yn erbyn ein planhigion brodorol, a’u gorchfygu. Mae hyn yn digwydd oherwydd ei fod yn tyfu’n gyflym ac yn dosbarthu ei hadau’n effeithiol; yn ôl Plantlife dyma rywogaeth flynyddol fwyaf y DU, gan gynhyrchu codau hadau ffrwydrol sy’n hyrddio cannoedd o hadau hyd at 7 metr o’r planhigyn. Mae hyn yn golygu bod y rhywogaeth yn gallu arglwyddiaethu’n gyflym dros arwynebeddau mawr, yn mygu planhigion brodorol ac felly, yn ei dro, yn effeithio ar yr ecosystem, gan arwain at newidiadau enfawr i’r cymunedau o infertebratau yn cynnwys colli peillwyr arbenigol. Daw’r ail fater o bryder o’i gylchedd bywyd blynyddol, sy’n golygu bod y planhigyn yn diflannu yn y gaeaf ac felly nad oes system wreiddiau i glymu’r pridd at ei gilydd. Mae hyn yn arwain at erydiad a cholled pridd pwysig ar gyfer amaethyddiaeth, a diflaniad glannau afon. Yn ei dro, mae hyn yn peri llu o faterion i lawr yr afon, gyda phridd yn mygu’r gwelyau gro a ddefnyddir fel tiroedd magu pysgod fel yr eog a mygu cynefinoedd lle mae rhai o’n infertebratau mwyaf prin, fel y gragen las berlog dŵr croyw, yn byw. Mae’n anodd crynhoi effeithiau niweidiol yr un rhywogaeth ymledol hon ond, drwyddi draw, ystyrir bod rhywogaethau ymledol yn un o brif yrwyr yr argyfwng bioamrywiaeth byd-eang. Felly, rydym yn benderfynol o barhau i fynd I’r afael â’r planhigyn hwn ac yn hynod ddiolchgar am eich cefnogaeth.

Gwirfoddolwyr yn dadwreiddio jac-y-neidiwr yng Nghlwb Rygbi Bethesda yn ystod penwythnos MAD Cymdeithas Eryri.

Fel partner craidd Partneriaeth Tirlun y Carneddau rydym wedi canolbwyntio ein hegni a’n hadnoddau ar glirio jac-y-neidiwr yn ardal y Carneddau. Eleni treuliodd ein gwirfoddolwyr y swm rhyfeddol o 375 awr yn clirio jac-y-neidiwr. Sicrhawyd hyn o ganlyniad i gyfraniad pobl o ychydig o oriau yma ac acw, ar rydym yn hynod ddiolchgar. Fodd bynnag, dim ond rhan fach o’r amser a dreuliwyd gan gymunedau rhyfeddol y Carneddau a gynrychiolir gan yr oriau yma. Roeddem yn ddigon ffodus i gydweithio ochr yn ochr â nifer o’r grwpiau yma yn cynnwys Dyffryn Gwyrdd, project cynaladwyedd ac amgylcheddol lleol ym Methesda. Gyda’n gilydd clustnodwyd dwy ardal allweddol yn uchel i fyny’r afon yr oedd yn hanfodol mynd i’r afael â nhw cyn i ni weithio’n is i lawr y dalgylch. Fel y dywedodd Harry Pickering o Ddyffryn Gwyrdd, bu’n rhaid ‘torri’r pen oddi ar y neidr’ cyn mynd i’r afael â’r corff. Mae eu hymdrechion a’u harbrofi gyda strategaethau gwahanol o drin jac-y-neidiwr, yn cynnwys cribinio, torri a hollti, wedi sicrhau cipolwg ddifyr ar sut i gynyddu ein heffeithiolrwydd y flwyddyn nesaf.

I lawr pen deheuol y Carneddau, mae poblogaeth jac-y-neidiwr yn cynyddu ym mhentref Trefriw ac yn dringo’n araf i fyny’r cwm tuag at Lyn Crafnant. Yma ymunwyd â chwpl brwdfrydig oedd yn awyddus iawn i adennill eu coedlannau a rhwystro jac-y-neidiwr rhag cyrraedd y llyn. O weld eu brwdfrydedd a’u hangerdd yn ystod y dyddiau gwaith mawr oedd edmygedd gwirfoddolwr a staff tuag atyn nhw (neu efallai mai’r teisennau a gyfrannwyd ganddyn nhw oedd y rheswm!). Wrth i ni adael dim ond megis dechrau oedd y frwydr yn y cwm; fodd bynnag, o weld eu strimar newydd a phenderfyniad y cymunedau, rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd y flwyddyn nesaf a helpu gyda’u cynnydd.

Gwirfoddolwr yn ymosod ar lain trwchus o jac-y-neidiwr (chwith); gwirfoddolwr yn mwynhau’r teisennau blasus (dde).

Draw yn Nyffryn Conwy ymunwyd â grŵp Rowen, sydd wedi ei hen sefydlu. Mae’r grŵp ymroddedig yma sy’n trin y jac-y-neidiwr wedi bod yn cyfarfod dros y pum mlynedd diwethaf, gan weithio’n raddol ar hyd nentydd ac afonydd yr ardal, a’u clirio fesul adran, Roedd yn wych gweld eu map, a oedd yn frith o stribedi gwyrdd wedi eu hamlygu a oedd yn cynrychioli ardaloedd lle’r oedd jac-y-neidiwr wedi ei glirio. Yn fwy calonogol fyth oedd clywed sut mae adrannau cyfan o lannau afon a gliriwyd ganddyn nhw yn y blynyddoedd blaenorol yn dal yn glir o’r planhigyn yn archwiliadau eleni! Mae’r buddugoliaethau hyn yn werth eu dathlu felly diolch enfawr gan Gymdeithas Eryri!

Yn yr un ardal mae grŵp newydd a sefydlwyd eleni yn canolbwyntio ar Ffynnon Bedr. Sefydlwyd y grŵp brwdfrydig hwn i fynd I’r afael â’r jac-y-neidiwr yn eu coedlan leol lle’r oedd cyn hynny yn garped dros yr holl is-haen. Er ei bod yn ymddangos yn amhosibl i ddechrau, gweithiodd y grŵp hwn yn ddygn ac maen nhw’n fodlon iawn â’r ardal a gliriwyd. Erbyn hyn maen nhw’n lledaenu eu gorwelion, ac mewn cyswllt â Phartneriaeth Tirlun y Carneddau i weld pa gefnogaeth ychwanegol sydd ei angen.

 Gwirfoddolwyr bodlon a blinedig ar ôl clirio lleiniau o jac-y-neidiwr yn nyffryn Crafnant.

Dros y tair blynedd nesaf, cenadwri Partneriaeth Tirlun y Carneddau yw darparu cefnogaeth a chymorth i’r ardalwyr lleol ymroddedig ar ffurf gwybodaeth a medrau angenrheidiol ar gyfer reoli’r planhigyn yn llwyddiannus. Fel rhan o’r strategaeth hon, rydym wedi bod yn cynnal modiwlau hyfforddi achrededig ymarferol am ddim. Mae’r rhain yn cynnwys adnabod a mynd i’r afael â jac-y-neidiwr mewn ffordd briodol a sut i roi gweithgareddau clirio’r planhigyn ar waith (i’w cael ar-lein cyn bo hir). Rydym hefyd yn creu map o’r Carneddau ar-lein sy’n dangos dosbarthiad jac-y-neidiwr (yn seiliedig ar gofnodion a anfonwyd atom gan y cyhoedd) ym mhle mae’n cael ei drin a pha grŵp sy’n ei glirio. Gobeithio y bydd hyn yn rhoi cipolwg i ni ar y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud, annog mwy o gymunedau i gymryd rhan a datblygu synnwyr o undod a chefnogaeth ymysg y bobl sy’n cymryd rhan ymarferol yn y frwydr yn erbyn jac-y-neidiwr.

Mae dipyn o ffordd i fynd eto os ydym am orchfygu’r planhigyn hwn yn Eryri, ond mae gobaith.

Fe all pawb weithredu i reoli’r planhigyn ymledol hwn; dyma awgrym neu ddau:

1 Gadewch i ni wybod lle mae o! Lawr-lwythwch ein Ffurflen arolwg jac y neidiwr (fersiwn Cymraeg i ddilyn yn fuan) sy’n gofyn ychydig o gwestiynau allweddol am ei leoliad. Neu, cofnodwch y lleoliad, gyda chyfeirnod grid a ffotograff, a’u he-bostio i mi ar cai@snowdonia-society.org.uk.

2 Dewch i gymryd rhan yn ein dyddiau jac-y-neidiwr neu ymunwch ag un o’n cyrsiau hyfforddi. Yn ogystal â gwneud gwahaniaeth ymarferol, byddwch hefyd yn cyfarfod pobl o’r un anian a dysgu’r medrau a’r wybodaeth i glirio’r planhigyn o’ch ardal eich hun.

Am rŵan, mae tymor jac-y-neidiwr ar ben. Mae hyn yn golygu felly y gallwn orffwys a pharatoi am ymgyrch fwy fyth eto’r flwyddyn nesaf.