Mae ein ffrindiau sy’n rhedeg busnes ystafell de Pot Mêl yn Nhŷ Hyll wedi ail-agor am y tymor! Saith diwrnod yr wythnos, gallwch fwynhau eu teisennau blasus, te neu ginio. Gallwch alw heibio’r ardd a’r goedlan hefyd. Mae’r rhain yn agored yn rhad ac am ddim drwy’r flwyddyn gron. (Er, rydym bob amser yn croesawu cyfraniadau i’n helpu i’w gwarchod ar ran bywyd gwyllt!).
Bellach mae darn hyfryd o galigraffi wedi ei fframio i’w weld wrth ymyl grisiau’r tŷ. Rhoddwyd hwn i ni y llynedd ac rydym yn awyddus i ddatrys y dirgelwch ynglŷn â phwy â’i gyfrannodd i ni. Os mai chi wnaeth, cofiwch gysylltu â mary@snowdonia-society.org.uk, os gwelwch yn dda.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ystafell de Pot Mêl, ffoniwch 01492 642322.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk