Fel Cynorthwywr Cadwraeth o dan Hyfforddiant, bydd Chelsea yn magu profiad gwerthfawr o bob math mewn cadwraeth ymarferol a bydd yn cymryd rhan mewn cynllunio ac arwain dyddiau gwirfoddolwyr ochr yn ochr â gweddill y tîm cadwraeth.
Astudiodd Chelsea Ffiseg ym Mhrifysgol Warwick cyn canolbwyntio wedyn ar yr amgylchedd ac ymuno â’r Brifysgol Agored i astudio Gwyddoniaeth Amgylcheddol lle ymgymerodd â gosodiad blwyddyn gyda’r Cyngor Astudiaethau Maes yn Sir Benfro.
Mae Chelsea wedi magu profiad yn yr amgylchedd a chadwraeth drwy weithio a gwirfoddoli mewn gwahanol ardaloedd ledled Cymru. Wedi magu profiad o goedlannau yng Nghymoedd Gwent, yr arfordir yn Sir Benfro ac yn Ynys Sgomer a phrofiad morol yng Nghei Newydd, mae hi wedi ei chyffroi wrth gael ehangu mwy ar ei phrofiadau drwy amrywiaeth cynefinoedd Eryri.
Mae hi wrth ei bodd gydag anifeiliaid (cofiwch adael iddi wybod am eich anifeiliaid anwes), yn mwynhau gwylio adar, cyfansoddi caneuon ac yfed cryn dipyn o de.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk