Iwan Ifan

Uwch Swyddog Cadwraeth

Fel ein Uwch Swyddog Cadwraeth mae Iwan yn gyfrifol am gynllunio dyddiau gwirfoddol ymarferol gyda’n partneriaid. Mae hefyd yn darparu hyfforddiant i’n gwirfoddolwyr ac yn gyfrifol am ddatblygiad unrhyw staff o dan hyfforddiant.

Mae Iwan wedi ei fagu yn Eryri ac wedi byw yma’r rhan fwyaf o’i oes. Mae wrth ei fodd yn treulio amser yn y bryniau a’r mynyddoedd yn cerdded, rhedeg a dringo. Mae yn frwdfrydig am gynnal a gwella Eryri i bawb, yn enwedig i’r genhedlaeth nesaf gan ei fod newydd ddod yn dad.

Mae ei gefndir mewn gwaith contractio amrywiol, gan gymryd diddordeb mewn gwaith cadwraeth tra’n gweithio i gwmni torri coed, a chael profiad gwaith cadwraeth gydag amrywiaeth o gwmnïau.