Mary-Kate yw ein Rheolwr Rhaglen. Mae hi wedi rheoli a datblygu gwaith cadwraeth ymarferol y Gymdeithas, rhaglenni gwirfoddoli a hyfforddiant ers 2012. Ers ymuno â’r Gymdeithas, mae Mary-Kate wedi gweithio gyda noddwyr allanol i gynyddu gallu ein tîm cadwraeth; mae hyn yn ein galluogi i sicrhau mwy o ddwylo i wireddu mwy o waith ymarferol i warchod Eryri. Mary a sefydlodd a datblygu ein rhaglen hyfforddiant achrededig ac mae hi wedi llunio sawl uned hyfforddiant newydd.
Roedd gan Mary-Kate ran fawr mewn creu project partneriaeth allweddol – Caru Eryri, gan gydweithio’n agos gyda phartneriaid ers 2020 i sicrhau cynllun sy’n cael ei weithredu’n dda gyda hyfforddiant a chefnogaeth gadarn. Mae hi’n parhau i ddatblygu’r gwaith hwn
Yn 2021, arweiniodd Mary-Kate waith y Gymdeithas i ddod yn Gyflogwr Gwir Gyflog Byw. Arweiniodd hefyd safle achredig y Gymdeithas fel Cyflogwr Chwarae Teg wrth gydweithio gyda Chwarae Teg, gan ddatblygu casgliad newydd o ‘bolisïau pobl’ a chreu sylfaen fel bod gwaith y Gymdeithas mor gynhwysol â phosib. Wrth wneud y gwaith yma sylweddolodd bod ganddi gariad tuag at ysgrifennu polisi!
Wedi ei geni a’i magu yng ngogledd Cymru, mae Mary-Kate yn siarad Cymraeg ac mae ganddi MSc mewn Rheolaeth Tir Cadwraeth gan Brifysgol Bangor, Gwobr Arweinyddiaeth a Medrau Tîm lefel 4 y City & Guilds a Gwobr lefel 2 ILM mewn Arweinyddiaeth a Medrau Tîm. Mae hi’n hynod o frwdfrydig dros warchod Eryri ac yn anochel, mae’n hi’n fodlon herio’r mwd a baw wrth dreulio amser yn yr awyr agored! Mae hi wrth ei bodd gyda chrwbanod môr a theisen ac wedi gwirioni efo dawnsio salsa.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk