Mathew Teasdale

Ymddiriedolwr

Mae Mathew yn Rheolwr tymor hir i’r YHA ac wedi gweinyddu hosteli yn Eryri a’r ardal o gwmpas ers 2004. Yn raddedig mewn Cymdeithaseg a Gwleidyddiaeth, ac yn Swyddog i’r Heddlu am gyfnod byr, mae’n lladmerydd brwd dros fuddion iechyd a lles yr amgylchedd naturiol.

Fel gweithiwr yn y sector lletygarwch, mae’n awyddus i sicrhau cydbwysedd rhwng cadwraeth rhinweddau rhagorol y Parc Cenedlaethol wrth hyrwyddo twristiaeth gyfrifol, cyflogaeth leol sy’n economaidd hyfyw, a chymunedau lleol cynaliadwy.

Yn byw erbyn hyn yng Nghonwy gyda’i deulu ifanc, mae Mathew yn cael pleser mawr o gerdded, darllen a chrochenwaith pan fo gwaith a bywyd teuluol yn caniatáu.